Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau Lleol sy'n gweinyddu Etholiadau ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu
Papurau pleidleisio amheus
Dylech ddyfarnu ynglŷn â phapurau pleidleisio amheus yn rheolaidd wrth i'r cyfrif fynd rhagddo: ni ddylid gadael hyn tan ddiwedd y broses gyfrif.
Dylech ystyried llyfryn y Comisiwn ar bapurau pleidleisio amheus , a ddarperir isod, drwy gydol y broses ddyfarnu. Mae'r llyfryn yn cynnwys enghreifftiau o bleidleisiau a ganiateir a phleidleisiau a wrthodir a'r egwyddorion allweddol i'w dilyn wrth ddyfarnu ynglŷn â phapurau pleidleisio amheus, a gellir cael mynediad iddynt o'n tudalen hadnoddau ar gyfer yr adran hon.
Gallwch hefyd ddod o hyd i enghreifftiau o bapurau pleidleisio a ganiateir a phapurau pleidleisio a wrthodir ar y mat bwrdd papurau pleidleisio amheus, y dylech ei arddangos yn y cyfrif er mwyn i ymgeiswyr, asiantiaid ac arsylwyr gyfeirio ato.
Dyfarnu ynglŷn â phapurau pleidleisio amheus
Wrth ddyfarnu ynglŷn â phapurau pleidleisio amheus, dylech wneud y canlynol:
- byddwch yn glir ac yn gyson bob amser
- cymerwch amser i sicrhau y gwneir penderfyniad ystyriol ym mhob achos
- penderfynwch a yw bwriad y pleidleisiwr yn ymddangos yn glir ar y papur pleidleisio
Fel rhan o hyn, bydd angen i chi:
- ystyried y papur pleidleisio cyfan
- ystyried a yw'r ffordd y cafodd papur pleidleisio ei farcio yn golygu bod pleidlais dros un ymgeisydd yn hollol amlwg.
Papurau pleidleisio a wrthodwyd
Mae'r ddeddfwriaeth yn darparu bod yn rhaid i chi wrthod papur pleidleisio1 :
- nad yw'n cynnwys y marc swyddogol (nid y marc adnabod unigryw)
- sy'n rhoi pleidlais dros fwy nag un ymgeisydd
- os bydd unrhyw beth wedi'i ysgrifennu neu wedi'i farcio arno sy'n eich galluogi i adnabod y pleidleisiwr (ac eithrio rhif y papur pleidleisio argraffedig neu farc adnabod unigryw arall)
- nad yw wedi'i farcio
- sy'n ddi-rym oherwydd ansicrwydd2
Fodd bynnag, mae'r ddeddfwriaeth yn nodi, oni bai bod modd adnabod y pleidleisiwr oherwydd y ffordd y marciwyd y papur pleidleisio, na chaniateir i chi wrthod papur pleidleisio y marciwyd y bleidlais arno yn y ffyrdd canlynol os yw bwriad y pleidleisiwr yn amlwg:3
- rywle arall yn hytrach na'r man priodol
- mewn ffordd arall ar wahân i groes
- drwy fwy nag un marc
Yn ogystal, mae'n bosibl y bydd angen ystyried papurau pleidleisio ymhellach o dan yr amgylchiadau canlynol:
- os bydd papur pleidleisio yn cynnwys unrhyw beth anarferol (er enghraifft, ymddengys ei fod wedi'i newid, naill ai â theclyn ysgrifennu cwbl wahanol neu â hylif cywiro)
- os bydd papur pleidleisio wedi'i rwygo neu ei ddifrodi
Gellir derbyn papurau pleidleisio sydd wedi'u rhwygo neu eu difrodi fel pleidlais ddilys ar yr amod bod y papur yn cynnwys y marc swyddogol o hyd a bod bwriad y pleidleisiwr yn glir ac nad yw'r un o'r rhesymau eraill dros wrthod papur pleidleisio yn gymwys.
Cewch ragor o wybodaeth yn ein canllawiau ar sut i ddelio â phapurau pleidleisio wedi'u torri wrth agor pleidleisiau post.
Rhaid i chi benderfynu a ydynt yn ddilys ym mhresenoldeb ymgeiswyr, asiantiaid ac arsylwyr.
Rhaid i'r rhai y datganwyd eu bod yn ddilys gael eu cyfrif a'u cynnwys yng nghyfanswm nifer y pleidleisiau a fwriwyd dros yr ymgeisydd priodol.4
Cofnodi papurau pleidleisio a wrthodwyd
Mae'ch penderfyniad ynglŷn ag unrhyw gwestiwn sy'n codi mewn perthynas â phapur pleidleisio yn derfynol a dim ond drwy ddeiseb etholiadol y gellir ei herio5 .
Rhaid i chi lunio datganiad yn dangos nifer y papurau pleidleisio a wrthodwyd ac am ba reswm.6 Felly, dylai fod gennych system ar waith drwy gydol y broses ddyfarnu ar gyfer didoli'r papurau pleidleisio a wrthodwyd o dan y penawdau canlynol:
- diffyg marc swyddogol
- pleidlais dros fwy nag un ymgeisydd
- ysgrifen neu farc sy'n eich galluogi i adnabod y pleidleisiwr
- heb ei farcio
- di-rym oherwydd ansicrwydd
Dylech ystyried canllawiau'r Comisiwn ac unrhyw ganllawiau ychwanegol a gyhoeddwyd gan y Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu er mwyn sicrhau y caiff y pleidleisiau a wrthodir eu categoreiddio mewn ffordd gywir a chyson er mwyn eu cofnodi ar y datganiadau.
Rhaid i chi sicrhau eich bod yn rhoi'r gair ‘gwrthodwyd’7 ar bob papur pleidleisio a wrthodir, a rhaid ychwanegu'r geiriau ‘gwrthwynebwyd y penderfyniad i wrthod’ os bydd asiant cyfrif yn gwrthwynebu eich penderfyniad.8
Er y dylai fod modd i arsylwyr arsylwi ar y broses hon, yn wahanol i asiantiaid, nid oes ganddynt hawl i wrthwynebu penderfyniad i wrthod papur pleidleisio.
Dylech roi copi o'r datganiad gwrthod yn y pecyn ar gyfer papurau pleidleisio a wrthodwyd.
- 1. Para 53(1) Atodlen 3 Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 (PCCEO 2012) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Para 53(1), Atodlen 3 PCCEO 2012 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Para 53(2) i (4) Atodlen 3 PCCEO 2012 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Para 53(2), Atodlen 3 PCCEO 2012 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Para 56, Atodlen 3 PCCEO 2012 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Para 53(7), Atodlen 3 PCCEO 2012 ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Para 53(6), Atodlen 3 PCCEO 2012 ↩ Back to content at footnote 7
- 8. Para 53(6), Atodlen 3 PCCEO 2012 ↩ Back to content at footnote 8