Guidance for the GLRO administering the GLA elections

| Argraffu'r canllawiau llawn

Gwirio a chymeradwyo cyfansymiau lleol

Fel Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu, chi sy'n gyfrifol am awdurdodi Swyddogion Canlyniadau Lleol i roi hysbysiad cyhoeddus o'r datganiadau o gyfansymiau lleol o nifer y pleidleisiau a fwriwyd a'r papurau pleidleisio a wrthodwyd. Mae gwirio ac awdurdodi'r cyfansymiau hyn yn gam allweddol o ran sicrhau bod y canlyniad yn gywir a bod trywydd archwilio clir a diamwys. Felly, mae angen i chi roi proses wirio drylwyr a chadarn ar waith i allu bodloni eich hun bod y cyfansymiau lleol yn gywir ac y caiff gwybodaeth a ffigurau eu cofnodi a'u trosglwyddo'n gywir gan Swyddogion Canlyniadau Lleol, a'u cofnodi a'u coladu'n gywir gennych chi a'ch staff.

Er mwyn cyfrifo canlyniad cywir, mae hynny'n dibynnu ar ffigurau dilysu a chyfrif cywir. Bydd angen i chi ystyried yn benodol pa gamau y byddwch yn eu cymryd i sicrhau bod y cyfansymiau lleol y mae Swyddogion Canlyniadau Lleol yn eu rhoi i chi yn gywir cyn i chi awdurdodi cyhoeddi'r datganiad lleol.

Yn benodol, dylech ystyried sut i sicrhau y caiff y ffigurau canlynol eu cofnodi a'u trosglwyddo'n gyson ac yn gywir:

  • cyfanswm nifer y papurau pleidleisio sy'n mynd ymlaen i'r cyfrif, gan sicrhau bod y ffigur hwn yn cynnwys yr holl bapurau pleidleisio o orsafoedd pleidleisio ac agor amlenni pleidleisiau post
  • cyfanswm nifer y pleidleisiau a fwriwyd ar gyfer pob ymgeisydd
  • cyfanswm nifer y pleidleisiau a wrthodwyd a'r niferoedd a gofnodwyd ym mhob categori gwrthod
    • dylai cyfanswm y pleidleisiau a gyfrifwyd ynghyd â chyfanswm y pleidleisiau a wrthodwyd gyfateb i gyfanswm y papurau pleidleisio sydd wedi mynd ymlaen i'r cyfrif

Os bydd y ffigurau hyn yn amrywio o gwbl, dylech ei gwneud yn ofynnol i'r Swyddog Canlyniadau Lleol gymryd pa gamau bynnag sy'n angenrheidiol ac yn briodol yn eich barn chi i geisio datrys yr amrywiant, a gallu egluro unrhyw amrywiant sy'n weddill i chi.

Cyn i chi dderbyn unrhyw ffigurau'n ffurfiol, dylai'r Swyddog Canlyniadau Lleol sydd wedi'u darparu eu gwirio, gan gynnwys sicrhau nad oes unrhyw wallau trawsgrifio.

Os bydd gennych reswm dros amau cywirdeb y broses o gyfrif y pleidleisiau mewn unrhyw ardal bleidleisio, gallwch gyfarwyddo'r Swyddog Canlyniadau Lleol i ailgyfrif y pleidleisiau.1  Unwaith y byddwch yn fodlon ar y cyfansymiau lleol, gallwch ei awdurdodi i roi hysbysiad cyhoeddus o'r datganiad o gyfansymiau lleol.2  

Diweddarwyd ddiwethaf: 18 Rhagfyr 2023