Dewch ag ID gyda chi i bleidleisio: ymgyrch newydd wedi’i lansio

Dewch ag ID gyda chi i bleidleisio: ymgyrch newydd wedi’i lansio

Mae ymgyrch ymwybyddiaeth gyhoeddus newydd, sy’n cael ei lansio heddiw gan y Comisiwn Etholiadol, yn annog pleidleiswyr ledled Lloegr i wneud yn siŵr eu bod yn barod am newidiadau i’r ffordd rydym yn pleidleisio. Mae gofyniad newydd i ddangos ID ffotograffig mewn gorsafoedd pleidleisio yn dod i rym eleni, a bydd yn gymwys am y tro cyntaf mewn etholiadau lleol a gynhelir yn Lloegr ym mis Mai.

Bydd ymgyrch ymwybyddiaeth y cyhoedd y Comisiwn yn cynnwys nodiadau gludiog anferth mewn llawysgrifen a fydd yn atgoffa pleidleiswyr i ddod ag ID gyda nhw i’r orsaf bleidleisio. Bydd yr hysbysiadau i’w gweld ar y teledu, ar y radio, ar hysbysfyrddau a bysiau, ar ffrydiau cymdeithasol a baneri ar wefannau, ac mewn papurau newydd lleol ledled Lloegr.

Dywedodd Craig Westwood, Cyfarwyddwr Cyfathrebu y Comisiwn Etholiadol:

“Efallai bod etholiadau mis Mai yn teimlo’n bell i ffwrdd, ond mae’n werth i bleidleiswyr nodi’r newidiadau nawr, a gwirio bod ganddynt yr ID priodol. Felly, pan fydd diwrnod y bleidlais yn cyrraedd, yr unig beth fydd angen iddynt gofio yw dod â’r ID gyda nhw.

Bydd y rheini nad oes ganddynt fath o ID a dderbynnir yn fuan yn gallu gwneud cais am ID rhad ac am ddim. Ry'n ni'n gweithio’n agos gydag awdurdodau lleol a sefydliadau cymdeithas sifil i gefnogi’r rheini sy’n llai tebygol o gael ID, fel na fydd neb yn colli’r cyfle i gael dweud eu dweud.”

Mae mathau o ID a dderbynnir yn cynnwys pasbort yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) neu’r Gymanwlad; trwydded yrru'r DU, yr AEE neu’r Gymanwlad; a rhai pasys teithio rhatach megis pas bws person hŷn neu gerdyn Oyster 60+. Bydd pleidleiswyr yn gallu defnyddio ID nad yw’n gyfredol os oes modd eu hadnabod o’u ffoto o hyd.

Bydd unrhyw un nad oes ganddynt un o’r mathau o ID a dderbynnir yn gallu gwneud cais am ID rhad ac am ddim. Gellir cyflwyno ceisiadau trwy borth ar-lein Llywodraeth y DU yn cymraeg.voter-authority-certificate.service.gov.uk, neu drwy gyflwyno ffurflen bapur i’r awdurdod lleol perthnasol. Disgwylir i geisiadau ddechrau wythnos nesaf .

Ychwanegodd Craig Westwood:

“Nod ein hymgyrch yw codi ymwybyddiaeth o’r newid ymhlith pleidleiswyr a’u hatgoffa'r i ddod ag ID gyda nhw ar y diwrnod pleidleisio. Dylai’r rheini sy’n ceisio rhagor o wybodaeth ar fathau o ID a dderbynnir a’r ID rhad ac am ddim ymweld â gwefan y Comisiwn.”

O fis Mai, bydd angen i bleidleiswyr ddangos ID ffotograffig cyn pleidleisio mewn etholiadau cynghorau lleol yn Lloegr, is-etholiadau Senedd y DU ac etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru a Lloegr. O fis Hydref 2023, bydd angen ID ffotograffig i bleidleisio yn etholiadau cyffredinol Senedd y DU.

Diwedd

Mae cynrychiolwyr y Comisiwn Etholiadol ar gael i'w cyfweld wrth i’r ymgyrch gael ei lansio.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa’r wasg y Comisiwn Etholiadol drwy ffonio 020 7271 0704, neu 07789 920 414 tu allan i oriau swyddfa. Fel arall gallwch e-bostio [email protected]

Nodiadau i olygyddion

  • Mae’r gofyniad i ddangos ID ffotograffig yn yr orsaf bleidleisio yn ofyniad newydd, a gyflwynwyd gan Ddeddf Etholiadau Llywodraeth y DU a basiwyd y llynedd.
  • O fis Mai, bydd angen i bleidleiswyr ddangos ID ffotograffig cyn pleidleisio mewn etholiadau cynghorau lleol yn Lloegr, is-etholiadau Senedd y DU ac etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru a Lloegr. O fis Hydref 2023, bydd angen ID ffotograffig i bleidleisio yn etholiadau cyffredinol Senedd y DU. Ni fydd yn ofyniad yn etholiadau Senedd Cymru nac yn etholiadau Senedd yr Alban, nac mewn etholiadau lleol yng Nghymru a'r Alban. Mae’r gofyniad hwn eisoes yn bodoli yng Ngogledd Iwerddon.
  • Disgwylir y bydd ceisiadau am yr ID rhag ac am ddim sydd ar gael, a elwir yn Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr, yn dechrau yn hwyrach y mis hwn. Yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau sy’n gyfrifol am y porth ceisiadau ar-lein.
  • I wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr, bydd angen i ymgeiswyr ddarparu ffoto, enw llawn, dyddiad geni, y cyfeiriad lle y maent wedi’u cofrestru i bleidleisio a’u rhif Yswiriant Gwladol.
  • Y Comisiwn Etholiadol sy’n gyfrifol am sicrhau bod pleidleiswyr yn ymwybodol o’r gofyniad newydd am ID pleidleisiwr, ac am gefnogi awdurdodau lleol a’r broses. Rydym ar gael i ateb cwestiynau ynghylch yr ymgyrch ymwybyddiaeth gyhoeddus.
  • Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am y polisi ID pleidleisiwr newydd ac am y system ceisiadau am yr ID pleidleisiwr rhad ac am ddim. Dylid cyfeirio ymholiadau ynghylch y system ceisiadau neu’r polisi ei hunan at yr Adran.
  • Swyddogion Canlyniadau a’u timau sy’n gyfrifol am weithredu’r polisi ID pleidleisiwr newydd ar lefel lleol.