Diweddariad misol – ymchwiliadau sydd wedi dod i ben (Hydref 2021)
Intro
Mae manylion ymchwiliadau sydd wedi dod i ben yn y mis diwethaf wedi'u cyhoeddi heddiw gan y Comisiwn Etholiadol. Mae hyn yn rhan bwysig o'n hymrwymiad i sicrhau bod cyllid gwleidyddol yn y DU yn dryloyw.
Ymchwiliadau lle cafwyd bod trosedd:
Enw a’r math o endid a reoleiddir | Yr hyn yr ymchwiliwyd iddo | Troseddau a gafwyd | Penderfyniad a wnaed |
Best for Britain (ymgyrchydd di-blaid cofrestredig) |
Methu â chyflwyno cofnod gwariant ymgyrchu cyflawn ar gyfer etholiad Senedd Ewrop 2019 |
Methu â chyflwyno cofnod gwariant ymgyrchu cyflawn ar gyfer etholiad Senedd Ewrop 2019 Danfon adroddiad rhoddion wythnosol ar gyfer etholiad cyffredinol Senedd y DU yn hwyr |
Cosbau ariannol amrywiol sy’n dod i gyfanswm o £3,000 |
Plaid Undeb Ewropeaidd y DU (plaid wleidyddol gofrestredig) |
Methu â chyflwyno cofnod gwariant ymgyrchu cyflawn ar gyfer etholiad Senedd Ewrop 2019; methu â chyflwyno datganiad llofnodedig cysylltiedig |
Methu â chyflwyno cofnod gwariant ymgyrchu cyflawn ar gyfer etholiad Senedd Ewrop 2019; methu â chyflwyno datganiad llofnodedig cysylltiedig |
Cosb ariannol benodedig o £200 |
Taking the Initiative (plaid wleidyddol gofrestredig) |
Methu â chyflwyno datganiad cyfrifon blynyddol yn brydlon Methu â rhoi gwybod yn brydlon i'r Comisiwn am newid i drysorydd cofrestredig y blaid |
Methu â chyflwyno datganiad cyfrifon blynyddol yn brydlon Methu â rhoi gwybod yn brydlon i'r Comisiwn am newid i drysorydd cofrestredig y blaid |
Dim cosb. Cau'r achos heb gamau pellach |
Represent Us Ltd (ymgyrchydd di-blaid cofrestredig) | Derbyn/talu anfonebau gwariant ymgyrchu’n hwyr | Talu cais am dreuliau ymgyrchu a dderbyniwyd ar ôl 30 diwrnod heb ganiatâd; talu cais am dreuliau ymgyrchu y tu allan i 60 diwrnod | Dim cosb. Cau'r achos heb gamau pellach |
The League Against Cruel Sports (ymgyrchydd di-blaid cofrestredig) | Talu anfonebau gwariant ymgyrchu’n hwyr | Talu treuliau ymgyrch tu allan i'r 60 diwrnod | Dim cosb. Cau'r achos heb gamau pellach |
Yn dilyn etholiad, mae’n rhaid i bleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr dalu pob anfoneb a derbynnir yn brydlon gan gyflenwyr o fewn 60 diwrnod o’r etholiad. Rhaid i unrhyw anfonebau a dderbynnir 30 diwrnod ar ôl yr etholiad beidio â chael eu talu heb gael caniatâd gan lys.
Meddai Dan Adamson, y Pennaeth Monitro a Gorfodi, wrth gyfeirio at yr ymchwiliadau sydd wedi dodi i ben:
“Mae’r gofynion adrodd a’r rheolau o amgylch talu treuliau ar gyfer pleidiau ac ymgyrchwyr yn glir, ac mae’n bwysig eu bod yn cael eu diwallu. Mae hyn yn rhoi’r cyfle i bleidleiswyr weld data amserol ar sut y mae pleidiau’n cael ac yn gwario’u harian.”
Diwedd
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa cyfryngau’r Comisiwn Etholiadol drwy ffonio 020 7271 0704, tu allan i oriau swyddfa 07789 920 414, neu drwy e-bostio [email protected]
Nodiadau i olygyddion
Nodiadau i olygyddion
1. Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb trwy’r canlynol:
- galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr, a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n cyson newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch
- rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth a mynd ar ôl achosion o dorri rheolau
- defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i'n democratiaeth ac eirioli drostynt, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd
Sefydlwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd Cymru, Senedd y DU a Senedd yr Alban.
2. Mae'r datganiad hwn yn rhan o ddiweddariad misol ymchwiliadau'r Comisiwn. Dyma ran bwysig o'i ymrwymiad i sicrhau bod cyllid gwleidyddol y DU yn dryloyw. Caiff gwybodaeth o'r natur hon ei chyhoeddi'n rheolaidd ar drydydd dydd Mawrth pob mis. Mae manylion cosbau o'r misoedd blaenorol hefyd ar gael.
3. Mae cosbau sydd wedi'u rhoi gan y Comisiwn yn mynd i'r Gronfa Gyfunol, yr un fath â rhoddion a fforffedwyd. Caiff hon ei rheoli gan Drysorlys EM ac nid y Comisiwn Etholiadol.