Diweddariad misol – ymchwiliadau sydd wedi dod i ben (Medi 2021)
Intro
Mae manylion ymchwiliadau sydd wedi dod i ben yn y mis diwethaf wedi'u cyhoeddi heddiw gan y Comisiwn Etholiadol. Mae hyn yn rhan bwysig o'n hymrwymiad i sicrhau bod cyllid gwleidyddol yn y DU yn dryloyw.
Ymchwiliadau lle cafwyd bod trosedd:
Enw a’r math o endid a reoleiddir |
Yr hyn yr ymchwiliwyd iddo |
Troseddau a gafwyd |
Penderfyniad a wnaed |
---|---|---|---|
Labour Together (cymdeithas aelodau) |
Methu â chyflwyno adroddiadau rhoddion o fewn 30 diwrnod o dderbyn rhoddion Adrodd am rodd yn anghywir Methu â phenodi personau cyfrifol o fewn 30 diwrnod o dderbyn rhoddion |
Methu â chyflwyno adroddiadau rhoddion o fewn 30 diwrnod o dderbyn rhoddion Adrodd am rodd yn anghywir Methu â phenodi personau cyfrifol o fewn 30 diwrnod o dderbyn rhoddion |
Cosbau ariannol amrywiol sy’n dod i gyfanswm o £14,250 Talwyd ar 2 Medi 2021 |
Y Blaid Lafur (plaid wleidyddol gofrestredig) |
Methu â chyflwyno adroddiadau rhoddion chwarterol cywir |
Methu â chyflwyno adroddiadau rhoddion chwarterol cywir |
Cosbau ariannol amrywiol sy’n dod i gyfanswm o £1,820 Talwyd ar 1 Medi 2021 |
Gwlad (plaid wleidyddol gofrestredig) |
Cyflwyno adroddiadau wythnosol ac adroddiadau trafodion ar gyfer etholiad cyffredinol Senedd y DU 2019 yn hwyr Cyflwyno ffurflen gwariant ymgyrchu ar gyfer etholiad cyffredinol Senedd y DU 2019 yn hwyr |

£200 o gosb ariannol penodol Talwyd ar yr hysbysiad cychwynnol ar 6 Medi 2021 |
Y Blaid Werdd (plaid wleidyddol gofrestredig) |
Methu â chyflwyno ffurflen gwariant ymgyrchu wedi’i chwblhau ar gyfer etholiad Senedd Ewrop 2019 Methu â chyflwyno ffurflen sy'n cynnwys datganiad o'r holl daliadau a wnaed mewn perthynas â threuliau ymgyrchu |

Dim cosb |
Justice & Anti-Corruption Party |
Cyflwyno ffurflen gwariant ymgyrchu ar gyfer etholiad cyffredinol Senedd y DU 2019 yn hwyr |
Cyflwyno ffurflen gwariant ymgyrchu ar gyfer etholiad cyffredinol Senedd y DU 2019 yn hwyr |
Dim cosb |
Real Change Lab Limited (ymgyrchydd di-blaid cofrestredig) |
Methu â chyflwyno ffurflen sy'n cynnwys datganiad o'r holl roddion perthnasol a dderbyniwyd ar gyfer Etholiad Cyffredinol Senedd y DU 2019 |
Methu â chyflwyno ffurflen sy'n cynnwys datganiad o'r holl roddion perthnasol a dderbyniwyd ar gyfer Etholiad Cyffredinol Senedd y DU 2019 |
Dim cosb |
Wrth wneud sylw ar yr ymchwiliadau a bennwyd, dywedodd Louise Edwards, Cyfarwyddwr Rheoleiddio'r Comisiwn:
“Mae’n hanfodol bod gan bleidleiswyr gwybodaeth amserol a chywir ynghylch yr arian y mae pleidiau ac ymgyrchwyr yn gwario mewn etholiadau, a’r rhoddion y maen nhw a sefydliadau eraill a reoleiddir yn eu cael. Mae'r gofynion adrodd yn glir, felly mae hi wastad yn siomedig pan na chânt eu bodloni.
“Lle rydym yn canfod bod troseddau wedi'u cyflawni, nid ydym yn gosod sancsiynau yn awtomatig. Ar adegau, gall methu â chydymffurfio rhoi cyfle i ni weithio gyda’r rheiny yr ydym yn eu rheoleiddio i’w helpu i ddeall y gyfraith yn well a sicrhau cydymffurfio yn y dyfodol.”
Diwedd
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa cyfryngau’r Comisiwn Etholiadol drwy ffonio 020 7271 0704, tu allan i oriau swyddfa 07789 920 414, neu drwy e-bostio [email protected]
Notes to Editors
Nodiadau i olygyddion
1. Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb trwy’r canlynol:
- galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr, a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n cyson newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch
- rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth a mynd ar ôl achosion o dorri rheolau
- defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i'n democratiaeth ac eirioli drostynt, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd
Sefydlwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd Cymru, Senedd y DU a Senedd yr Alban.
2. Mae'r datganiad hwn yn rhan o ddiweddariad misol ymchwiliadau'r Comisiwn. Dyma ran bwysig o'i ymrwymiad i sicrhau bod cyllid gwleidyddol y DU yn dryloyw. Caiff gwybodaeth o'r natur hon ei chyhoeddi'n rheolaidd ar drydydd dydd Mawrth pob mis. Mae manylion cosbau o'r misoedd blaenorol hefyd ar gael.
3. Mae cosbau sydd wedi'u rhoi gan y Comisiwn yn mynd i'r Gronfa Gyfunol, yr un fath â rhoddion a fforffedwyd. Caiff hon ei rheoli gan Drysorlys EM ac nid y Comisiwn Etholiadol.