Pleidiau gwleidyddol wedi derbyn £11m mewn rhoddion yn y tri mis hyd at fis Medi
Pleidiau gwleidyddol wedi derbyn £11m mewn rhoddion yn y tri mis hyd at fis Medi
Adroddodd pleidiau gwleidyddol ym Mhrydain Fawr a Gogledd Iwerddon eu bod wedi derbyn dros £11m mewn rhoddion a chronfeydd cyhoeddus rhwng mis Gorffennaf a mis Medi, yn ôl ffigurau a gyhoeddwyd gan y Comisiwn Etholiadol heddiw. Mae’r cyfanswm o £11,175,980 yn cynnwys rhoddion i 19 o bleidiau, ac mae hyn yn cymharu yn debyg i lefelau a adroddwyd yn yr un cyfnod yn 2021 (£11,598,440).
Dywedodd Louise Edwards, Cyfarwyddwr Rheoleiddio y Comisiwn Etholiadol:
“Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo system cyllid gwleidyddol dryloyw ar gyfer pleidleiswyr, ac rydym yn cyhoeddi manylion y rhoddion hyn fel y gall bawb weld sut y caiff pleidiau eu hariannu. Yn gyfreithiol, mae’n ofynnol ar bleidiau i wirio bod y rhoddion y maent yn eu derbyn yn dod o ffynonellau a ganiateir, ac i adrodd am y rhain i ni.
“Tra bod y cyfreithiau hyn yn helpu pleidleiswyr i ddeall o ble ddaw rhoddion gwleidyddol, mae angen diwygiadau er mwyn moderneiddio a diogelu y system ymhellach. Rydym wedi awgrymu ers cryn amser bod Llywodraeth a Senedd y DU yn gweithio gyda ni i wella rheolau rhoddion a chynyddu hyder yng ngweithdrefn cyllid gwleidyddol y DU.”
Y pleidiau gwleidyddol a adroddodd am roddion yn Ch3 2022 oedd:
Plaid | Cyfanswm a adroddwyd | Rhoddion a dderbyniwyd (ac eithrio cronfeydd cyhoeddus) | Cronfeydd cyhoeddus a dderbyniwyd | Cyfanswm a dderbyniwyd yn ystod y chwarter hwn |
---|---|---|---|---|
Alliance - Alliance Party of Northern Ireland |
£34,728 | £15,000 | £19,728 | £34,728 |
Y Blaid Geidwadol ac Unoliaethol (Prydain Fawr) | £3,013,023 | £2,890,867 | £58,069 | £2,948,935 |
Y Blaid Geidwadol ac Unoliaethol (Gogledd Iwerddon) | £26,979 | £26,979 | £0 | £26,979 |
Y Blaid Gydweithredol | £299,300 | £299,300 | £0 | £299,300 |
Plaid yr Unoliaethwyr Democrataidd - D.U.P | £86,296 | £0 | £86,296 | £86,296 |
Y Blaid Werdd (Prydain Fawr) | £129,786 | £68,716 | £46,778 | £115,494 |
Y Blaid Lafur | £4,756,370 | £2,839,756 | £1,867,064 | £4,706,820 |
Y Democratiaid Rhyddfrydol | £1,752,825 | £1,366,827 | £296,342 | £1,663,169 |
People Before Profit Alliance | £4,766 | £0 | £4,766 | £4,766 |
Plaid Cymru | £27,719 | £0 | £27,719 | £27,719 |
Plaid Werdd yr Alban | £5,761 | £2,250 | £3,511 | £5,761 |
Plaid Genedlaethol yr Alban (SNP) | £396,300 | £0 | £115,276 | £115,276 |
Sinn Féin | £183,049 | £100,000 | £83,049 | £183,049 |
The Reclaim Party | £91,084 | £91,084 | £0 | £91,084 |
Plaid Sosialaidd Prydain Fawr | £400,000 | £400,000 | £0 | £400,000 |
Traditional Unionist Voice – TUV | £6,820 | £0 | £6,820 | £6,820 |
True & Fair Party | £30,250 | £30,250 | £0 | £30,250 |
Plaid Unoliaethwyr Ulster | £23,236 | £0 | £23,236 | £23,236 |
Plaid Cydraddoldeb Menywod | £10,000 | £10,000 | £0 | £10,000 |
Total | £11,393,567 | £8,141,028 | £3,034,952 | £11,175,980 |
Mae'n ofynnol i bleidiau gwleidyddol gyflwyno ffurflenni rhoddion a benthyciadau chwarterol i'r Comisiwn Etholiadol. Yn y ffurflenni hyn, mae'r pleidiau yn adrodd:
- rhoddion a dderbyniwyd sy'n uwch na'r trothwy o £7,500 (dros £1,500 ar gyfer unedau cyfrifyddu)
- rhoddion llai gan roddwr unigol sydd, gyda'i gilydd, yn fwy na'r trothwy adrodd
- rhoddion gwaharddedig a dderbyniwyd ganddynt a'r camau a gymerwyd mewn perthynas â'r rhain
Benthyca
Cafodd £188,300 o fenthyciadau newydd eu hadrodd yn Ch3 2022. Cafodd benthyciadau â gwerth o £28,000 eu talu’n llawn.
Rhoddion a dderbyniwyd gan dderbynwyr a reoleiddir
Mae'r Comisiwn hefyd yn cyhoeddi manylion rhoddion a dderbyniwyd gan dderbynwyr a reoleiddir. Mae derbynwyr a reoleiddir yn aelodau o bleidiau gwleidyddol cofrestredig, deiliaid swyddi dewisol perthnasol, a chymdeithasau aelodau.
Yn Ch3 2022, derbyniwyd £2,111,117 mewn rhoddion gan 182 o dderbynwyr. Mae'r cyfanswm yn cynnwys rhoddion arian parod a rhoddion nad ydynt yn arian parod, ynghyd â rhoddion tuag at ymweliadau tramor. Mae manylion llawn y rhoddion i dderbynwyr a reoleiddir ar gael ar ein gwefan.
Math o dderbyniwr a reoleiddir | Gwerth yr arian parod a'r rhoddion nad ydynt yn arian parod a dderbyniwyd | Gwerth rhoddion a dderbyniwyd tuag at ymweliadau tramor | Cyfanswm gwerth y rhoddion a dderbyniwyd |
---|---|---|---|
Ymgeisydd Arweinyddiaeth | £1,172,938 | £0 | £1,172,938 |
Maer | £17,533 | £0 | £17,533 |
Cymdeithas Aelodau | £126,800 | £0 | £126,800 |
AS - Aelod Seneddol | £660,033 | £133,812 | £793,845 |
Totals | £1,977,305 | £133,812 | £2,111,117 |
Rhagor o wybodaeth
Mae crynodeb o’r rhoddion a adroddwyd gan bleidiau, gan gynnwys y prif roddwyr a manylion adroddiadau hwyr, ar gael ar wefan y Comisiwn.
Mae manylion llawn rhoddion a benthyciadau a adroddwyd yn Ch3 2022 ar gael ar ein cofrestr cyllid gwleidyddol.
Diwedd
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa cyfryngau’r Comisiwn Etholiadol drwy ffonio 020 7271 0704, neu 07789 920 414 y tu allan i oriau swyddfa. Fel arall gallwch e-bostio [email protected]
Notes to editors
Nodiadau i olygyddion
1. Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb trwy’r canlynol:
- galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr, a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n cyson newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch
- rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth, a mynd ar ôl achosion o dorri rheolau
- defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i'n democratiaeth ac eirioli drostynt, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd.
Sefydlwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd Cymru, Senedd y DU, a Senedd yr Alban.
2. Gallai’r swm a adroddir gan blaid wleidyddol i’r Comisiwn fod yn wahanol i’r swm a dderbynnir ganddi mewn chwarter. Gall y swm a adroddir gynnwys rhoddion a ddychwelwyd gan eu bod yn waharddedig a/neu roddion a ddylai bod wedi’u hadrodd mewn chwarteri blaenorol.
3. Mae'n debygol y bydd pleidiau wedi derbyn rhoddion eraill, gan wahanol gyrff neu unigolion, sydd yn is na’r trothwyon ar gyfer adrodd i’r Comisiwn. O'u cymryd fel cyfanswm gall y rhain fod yn ffynonellau incwm sylweddol i bleidiau.
4. Methodd chwe phlaid â bodloni'r dyddiad cau adrodd ar gyfer y chwarter hwn. Bydd y Comisiwn yn ystyried pob un o’r materion hyn, yn ogystal â rhoddion a adroddwyd yn hwyr, yn unol â'i Bolisi Gorfodi, os yw’n briodol. Bydd unrhyw gosbau a roddir yn cael eu cyhoeddi ar ddyddiad hwyrach.
5. Mae Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) yn gofyn bod pleidiau gwleidyddol yn adrodd am roddion a benthyciadau arian parod, a’r rheiny nad ydynt yn arian parod, yn chwarterol i'r Comisiwn Etholiadol. Mae rhaid i bleidiau gwleidyddol adrodd am bob rhodd a benthyciad dros £7,500 sy'n ymwneud â'r blaid ganolog, neu bob un dros £1,500 sy'n ymwneud ag uned gyfrifyddu. Mae hyn yn cynnwys cyfansymiau rhoddion a benthyciadau o'r un ffynhonnell yn ystod y flwyddyn galendr. Unwaith y bydd y blaid ganolog wedi adrodd rhodd neu gydgrynhoi rhodd o dros £7,500 mae’n rhaid iddynt adrodd bob rhodd dilynol o fwy na £1,500 o’r ffynhonnell hwnnw.
6. Gan mai dim ond rhoddion a benthyciadau dros y trothwyon hyn sy’n cael eu hadrodd gan bleidiau, nid yw'r ffigyrau yn cynnwys yr holl roddion a benthyciadau a dderbyniwyd gan bleidiau gwleidyddol. Cofnodir rhoddion a benthyciadau o dan y trothwyon hyn yng nghyfrifon blynyddol pleidiau gwleidyddol. Mae gwybodaeth am ddatganiadau o gyfrifon mwyaf diweddar pleidiau gwleidyddol ar gael yng nghronfa ddata’r Comisiwn.
7. Cronfeydd cyhoeddus yw rhoddion gan Dŷ'r Cyffredin, Tŷ'r Arglwyddi, Senedd yr Alban a'r Comisiwn Etholiadol. Mae grantiau 'Short' a 'Cranborne' ar gael i’r gwrthbleidiau yn Nhŷ'r Cyffredin neu Dŷ'r Arglwyddi fel ei gilydd.
8. Mae rhai rhoddion gan y Comisiwn Etholiadol yn ymddangos ar y gofrestr. Y rhain yw: Grantiau Datblygu Polisi, a sefydlwyd gan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ar gyfer pleidiau sydd â dau neu ragor o aelodau cyfredol yn Nhŷ'r Cyffredin. Bwriad y grantiau yw cynorthwyo pleidiau i ddatblygu'r polisïau y byddant yn eu cyflwyno mewn maniffesto etholiadol. Mae'r ddeddfwriaeth yn darparu swm o £2 miliwn yn flynyddol ar gyfer hyn. Daeth Grantiau Datblygu Polisi yn adroddadwy fel rhoddion am y tro cyntaf yn Ch3 2006 o ganlyniad i Ddeddf Gweinyddiaeth Etholiadol 2006.
9. Roedd 383 o bleidiau gwleidyddol wedi'u cofrestru ym Mhrydain Fawr a Gogledd Iwerddon yn ystod Ch3 2022. Roedd gofyn i 67 ohonynt gyflwyno adroddiad rhoddion chwarterol a 41 ohonynt gyflwyno gwybodaeth benthyca erbyn y dyddiad cau. Eithriwyd y pleidiau gwleidyddol eraill gan iddynt gyflwyno pedwar cofnod o ddim yn olynol yn flaenorol. Cyn belled â’u bod heb gael rhoddion yn ystod y chwarter diwethaf, maent wedi’u heithrio rhag cyflwyno adroddiad.
10. Mae rhagor o wybodaeth am yr hyn yw derbynnydd a reoleiddir a'u gofynion adrodd cyfreithiol ar gael ar ein gwefan.
11. Mae Aelodau Seneddol yn adrodd am y rhoddion a dderbyniwyd ganddynt yng Nghofrestr Buddiannau Ariannol yr Aelodau. Yna mae’r cofrestrydd yn anfon y manylion hyn i’r Comisiwn. Mae’r Comisiwn yn nodi ac yn cyhoeddi unrhyw roddion sydd yn disgyn o fewn rheolau ar dderbynwyr a reoleiddir. Mae gan y Comisiwn rôl o reoleiddio mewn perthynas â rhoddion a ganiateir.
12. Mae aelodau Senedd yr Alban yn adrodd am y rhoddion a dderbyniwyd ganddynt yng Nghofrestr Buddiannau Senedd yr Alban.
13. Mae pob derbynnydd arall a reoleiddir yn adrodd am ei roddion yn uniongyrchol i ni. Yna byddwn yn cyhoeddi'r wybodaeth hon yn fisol fel rhan o'n rôl wrth ddarparu mwy o dryloywder ym maes cyllid gwleidyddol yn y DU.