Pleidiau gwleidyddol yn adrodd £12.5m o roddion a benthyciadau yn Ch2 2022
Political parties report £12.5m donations and loans in Q2 2022
Adroddodd pleidiau gwleidyddol ym Mhrydain Fawr a Gogledd Iwerddon eu bod wedi derbyn cyfanswm o £12,544,172 mewn rhoddion a chronfeydd cyhoeddus yn ail chwarter 2022, (Ebrill i Fehefin), yn ôl ffigurau a gyhoeddwyd heddiw gan y Comisiwn Etholiadol. Mae’r cyfanswm yn cynnwys rhoddion i 21 o bleidiau, mae hyn yn cymharu ag £12,046,046 a adroddwyd yn yr un cyfnod yn 2021.
Wrth wneud sylw ar yr wybodaeth a gyhoeddwyd heddiw, dywedodd Louise Edwards, Cyfarwyddwr Rheoleiddio y Comisiwn Etholiadol:
“Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo system gyllid gwleidyddol dryloyw ar gyfer pleidleiswyr. Yn gyfreithiol, mae’n ofynnol ar bleidiau i wirio bod rhoddion y maent yn eu derbyn yn dod o ffynonellau a ganiateir, ac i adrodd am y rhain i’r Comisiwn. Rydym yn cyhoeddi manylion y rhoddion hyn fel y gall bawb weld sut y caiff pleidiau eu hariannu.
“Tra bod y cyfreithiau hyn yn helpu pleidleiswyr i ddeall o ble ddaw rhoddion gwleidyddol, mae angen diwygiadau er mwyn moderneiddio a diogelu y system ymhellach. Rydym wedi awgrymu ers cryn amser bod Llywodraeth a Senedd y DU yn gweithio gyda ni i wella rheoliadau sy’n atal arian tramor rhag cael ei ddefnyddio o fewn gwleidyddiaeth y DU.”
Mae'n ofynnol i bleidiau gwleidyddol gyflwyno ffurflenni rhoddion a benthyciadau chwarterol i'r Comisiwn Etholiadol. Yn y ffurflenni hyn, mae'r pleidiau yn adrodd:
- rhoddion a dderbyniwyd sy'n uwch na'r trothwy o £7,500 (dros £1,500 ar gyfer unedau cyfrifyddu)
- rhoddion llai gan roddwr unigol sydd, gyda'i gilydd, yn fwy na'r trothwy adrodd
- rhoddion gwaharddedig a dderbyniwyd ganddynt a'r camau a gymerwyd mewn perthynas â'r rhain.
Gall pleidiau hefyd adrodd rhoddion a ddylai fod wedi cael eu hadrodd mewn chwarteri blaenorol.
Y pleidiau gwleidyddol a adroddodd roddion yn ail chwarter 2022, gan gynnwys cronfeydd cyhoeddus, oedd:
|
Plaid |
Cyfanswm a adroddwyd |
Rhoddion a dderbyniwyd (ac eithrio cronfeydd cyhoeddus) |
Cronfeydd cyhoeddus a dderbyniwyd |
Cyfanswm a dderbyniwyd yn ystod y chwarter hwn |
|---|---|---|---|---|
|
Alba Party |
£158,961 |
£50,000 |
£108,961 |
£158,961 |
|
Alliance - Alliance Party of Northern Ireland |
£43,676 |
£25,000 |
£17,189 |
£42,189 |
|
Y Blaid Geidwadol ac Unoliaethol (Prydain Fawr) |
£5,346,795 |
£4,760,071 |
£559,270 |
£5,319,341 |
|
Y Blaid Geidwadol ac Unoliaethol (Gogledd Iwerddon) |
£7,297 |
£7,297 |
£0 |
£7,297 |
|
Y Blaid Gydweithredol |
£477,382 |
£469,882 |
£0 |
£469,882 |
|
Plaid yr Unoliaethwyr Democrataidd - D.U.P |
£266,191 |
£33,250 |
£232,941 |
£266,191 |
|
Y Blaid Werdd (Prydain Fawr) |
£214,678 |
£166,400 |
£46,778 |
£213,178 |
|
Y Blaid Lafur |
£3,847,555 |
£1,469,254 |
£2,336,119 |
£3,805,373 |
|
Y Democratiaid Rhyddfrydol |
£1,175,780 |
£774,696 |
£350,440 |
£1,125,136 |
|
People Before Profit Alliance |
£10,800 |
£0 |
£5,554 |
£5,554 |
|
Plaid Cymru |
£168,887 |
£3,896 |
£164,991 |
£168,887 |
|
Reform UK |
£20,000 |
£20,000 |
£0 |
£20,000 |
|
Plaid Werdd yr Alban |
£15,452 |
£9,786 |
£5,666 |
£15,452 |
|
Plaid Genedlaethol yr Alban (SNP) |
£383,589 |
£47,634 |
£332,955 |
£380,589 |
|
SDLP (Plaid Democratiaid Cymdeithasol a Llafur) |
£58,817 |
£7,260 |
£51,557 |
£58,817 |
|
Sinn Féin |
£183,049 |
£100,000 |
£83,049 |
£183,049 |
|
The Reclaim Party |
£250,000 |
£250,000 |
£0 |
£250,000 |
|
Traditional Unionist Voice - TUV |
£13,708 |
£0 |
£6,869 |
£6,869 |
|
True & Fair Party |
£16,000 |
£16,000 |
£0 |
£16,000 |
|
Plaid Unoliaethwyr Ulster |
£23,409 |
£0 |
£23,409 |
£23,409 |
|
Yorkshire Party |
£7,998 |
£7,998 |
£0 |
£7,998 |
|
Cyfanswm |
£12,690,024 |
£8,218,424 |
£4,325,748 |
£12,544,172 |
Gallai’r swm a adroddir gan blaid wleidyddol i’r Comisiwn fod yn wahanol i’r swm a dderbynnir ganddi mewn chwarter. Mae hyn oherwydd y gall y swm a adroddir gan blaid gynnwys rhoddion a ddychwelwyd gan eu bod yn waharddedig a/neu roddion a adroddwyd ar gyfer y chwarter anghywir.
Mae'n debygol y bydd pleidiau wedi derbyn rhoddion eraill, gan wahanol gyrff neu unigolion, sydd yn is na’r trothwyon ar gyfer adrodd i’r Comisiwn. O'u cymryd fel cyfanswm gall y rhain fod yn ffynonellau incwm sylweddol i bleidiau.
Methodd 8 o bleidiau fodloni'r dyddiad cau ar gyfer adrodd ar gyfer y chwarter yma. Bydd y Comisiwn yn ystyried pob un o’r materion hyn, yn ogystal â rhoddion a adroddwyd yn hwyr, yn unol â'i Bolisi Gorfodi, os yw’n briodol. Bydd unrhyw gosbau a roddir yn cael eu cyhoeddi ar ddyddiad hwyrach.
Benthyca
Cafodd £259,415 o fenthyciadau newydd eu hadrodd yn ystod ail chwarter 2022. Cafodd benthyciadau â gwerth o £163,000 eu talu’n llawn.
Rhoddion a dderbyniwyd gan dderbynwyr a reoleiddir yn Ch2 2022
Mae'r Comisiwn hefyd yn cyhoeddi manylion rhoddion a dderbyniwyd gan dderbynwyr a reoleiddir. Mae derbynwyr a reoleiddir yn aelodau o bleidiau gwleidyddol cofrestredig, deiliaid swyddi dewisol perthnasol, a chymdeithasau aelodau.
Yn ail chwarter 2022, derbyniwyd £546,816 mewn rhoddion gan 61 o dderbynwyr. Mae'r cyfanswm yn cynnwys rhoddion arian parod a rhoddion nad ydynt yn arian parod, ynghyd â rhoddion tuag at ymweliadau tramor. Mae manylion llawn y rhoddion arian parod a’r rhoddion nad ydynt yn arian parod ar gael ar ein gwefan.
|
Math o dderbyniwr a reoleiddir |
Gwerth yr arian parod a'r rhoddion nad ydynt yn arian parod a dderbyniwyd |
Gwerth rhoddion a dderbyniwyd tuag at ymweliadau tramor |
Cyfanswm gwerth y rhoddion a dderbyniwyd |
|---|---|---|---|
|
Maer |
£84,716 |
£0 |
£84,716 |
|
Cymdeithas Aelodau |
£69,866 |
£0 |
£69,866 |
|
AS - Aelod Seneddol |
£273,068 |
£117,130 |
£390,198 |
|
Aelod o Senedd Cymru |
£0 |
£2,037 |
£2,037 |
|
Cyfansymiau |
£427,650 |
£119,166 |
£546,816 |
Rhagor o wybodaeth
Mae crynodeb o’r rhoddion a adroddwyd gan bleidiau, gan gynnwys y prif roddwyr a manylion adroddiadau hwyr, ar gael ar wefan y Comisiwn.
Mae manylion llawn rhoddion a benthyciadau a adroddwyd yn Ch2 2022 ar gael ar ein cofrestr cyllid gwleidyddol.
Diwedd
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa cyfryngau’r Comisiwn Etholiadol drwy ffonio 020 7271 0704, tu allan i oriau swyddfa 07789 920 414 neu drwy e-bostio [email protected]
Notes to editors
Nodiadau i olygyddion
1. Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb trwy’r canlynol:
- galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr, a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n cyson newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch
- rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth, a mynd ar ôl achosion o dorri rheolau
- defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i'n democratiaeth ac eirioli drostynt, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd.
Sefydlwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd Cymru, Senedd y DU, a Senedd yr Alban.
2. Mae Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) yn gofyn bod pleidiau gwleidyddol yn adrodd am roddion a benthyciadau arian parod, a’r rheiny nad ydynt yn arian parod, yn chwarterol i'r Comisiwn Etholiadol. Mae rhaid i bleidiau gwleidyddol adrodd am bob rhodd a benthyciad dros £7,500 sy'n ymwneud â'r blaid ganolog, neu bob un dros £1,500 sy'n ymwneud ag uned gyfrifyddu. Mae hyn yn cynnwys cyfansymiau rhoddion a benthyciadau o'r un ffynhonnell yn ystod y flwyddyn galendr. Unwaith y bydd y blaid ganolog wedi adrodd rhodd neu gydgrynhoi rhodd o dros £7,500 mae’n rhaid iddynt adrodd bob rhodd dilynol o fwy na £1,500 o’r ffynhonnell hwnnw.
3. Gan mai dim ond rhoddion a benthyciadau dros y trothwyon hyn sy’n cael eu hadrodd gan bleidiau, nid yw'r ffigyrau yn cynnwys yr holl roddion a benthyciadau a dderbyniwyd gan bleidiau gwleidyddol. Cofnodir rhoddion a benthyciadau o dan y trothwyon hyn yng nghyfrifon blynyddol pleidiau gwleidyddol. Mae gwybodaeth am ddatganiadau o gyfrifon mwyaf diweddar pleidiau gwleidyddol ar gael yng nghronfa ddata’r Comisiwn.
4. Cronfeydd cyhoeddus yw rhoddion gan Dŷ'r Cyffredin, Tŷ'r Arglwyddi, Senedd yr Alban a'r Comisiwn Etholiadol. Mae grantiau 'Short' a 'Cranborne' ar gael i’r gwrthbleidiau yn Nhŷ'r Cyffredin neu Dŷ'r Arglwyddi fel ei gilydd.
5. Mae rhai rhoddion gan y Comisiwn Etholiadol yn ymddangos ar y gofrestr. Y rhain yw: Grantiau Datblygu Polisi, a sefydlwyd gan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ar gyfer pleidiau sydd â dau neu ragor o aelodau cyfredol yn Nhŷ'r Cyffredin. Bwriad y grantiau yw cynorthwyo pleidiau i ddatblygu'r polisïau y byddant yn eu cyflwyno mewn maniffesto etholiadol. Mae'r ddeddfwriaeth yn darparu swm o £2 miliwn yn flynyddol ar gyfer hyn. Daeth Grantiau Datblygu Polisi yn adroddadwy fel rhoddion am y tro cyntaf yn nhrydydd chwarter 2006 o ganlyniad i Ddeddf Gweinyddiaeth Etholiadol 2006.
6. Roedd 385 o bleidiau gwleidyddol wedi'u cofrestru ym Mhrydain Fawr a Gogledd Iwerddon yn ystod ail chwarter 2022. Roedd gofyn i 72 ohonynt gyflwyno adroddiad rhoddion chwarterol a 47 ohonynt gyflwyno gwybodaeth benthyca erbyn y dyddiad cau. Eithriwyd y pleidiau gwleidyddol eraill gan iddynt gyflwyno pedwar cofnod o ddim yn olynol yn flaenorol. Cyn belled â’u bod heb gael rhoddion yn ystod y chwarter diwethaf, maent wedi’u heithrio rhag cyflwyno adroddiad.
7. Mae rhagor o wybodaeth am yr hyn yw derbynnydd a reoleiddir a'u gofynion adrodd cyfreithiol ar gael ar ein gwefan.
8. Mae Aelodau Seneddol yn adrodd am y rhoddion a dderbyniwyd ganddynt yng Nghofrestr Buddiannau Ariannol yr Aelodau. Yna mae’r cofrestrydd yn anfon y manylion hyn i’r Comisiwn. Mae’r Comisiwn yn nodi unrhyw roddion sydd yn disgyn o fewn rheolau ar dderbynwyr a reoleiddir ac rydym yn cyhoeddi rhain. Mae gan y Comisiwn rôl o reoleiddio mewn perthynas â rhoddion a ganiateir.
9. Mae aelodau Senedd yr Alban yn adrodd am y rhoddion a dderbyniwyd ganddynt yng Nghofrestr Buddiannau Senedd yr Alban.
10. Mae pob derbynnydd arall a reoleiddir yn adrodd am ei roddion yn uniongyrchol i ni. Yna byddwn yn cyhoeddi'r wybodaeth hon yn fisol fel rhan o'n rôl wrth ddarparu mwy o dryloywder ym maes cyllid gwleidyddol yn y DU.