Y Comisiwn Etholiadol yn cau ymchwiliadau i bleidiau gwleidyddol: Plaid Genedlaethol Brydeinig a Burning Pink
Y Comisiwn Etholiadol yn cau ymchwiliadau i bleidiau gwleidyddol: Plaid Genedlaethol Brydeinig a Burning Pink
Mae ymchwiliadau i ddwy blaid wleidyddol wedi’u cau dros y mis diwethaf gyda’r Comisiwn Etholiadol yn gosod cosbau mewn un achos. Mae hyn yn rhan bwysig o ddarparu tryloywder o ran cyllid gwleidyddol yn y DU.
Ymchwiliadau
| Pwy y gwnaethom ymchwilio iddynt | Yr hyn y gwnaethom ei ymchwilio | Yr hyn y gwnaethom ganfod | Canlyniad |
|---|---|---|---|
|
Plaid Genedlaethol Brydeinig PF (plaid wleidyddol gofrestredig) |
Adrodd yn hwyr am roddion | Adrodd yn hwyr am roddion | Dwy gosb sy’n dod i gyfanswm o £2,750 |
| Danfon datganiad blynyddol o gyfrifon yn hwyr | Danfon datganiad blynyddol o gyfrifon yn hwyr | cosb o £3,000 | |
| Burning Pink (plaid wleidyddol) | Danfon datganiad blynyddol o gyfrifon yn hwyr | Dim trosedd |
Dim cosb Achos wedi’i gau |
Dywedodd Louise Edwards, Cyfarwyddwr Rheoleiddio:
“Mae’r cyfreithiau cyllid gwleidyddol yn eu lle er mwyn sicrhau bod y system yn dryloyw ac yn gywir. Mae'r gofynion ar gyfer pleidiau gwleidyddol yn glir, felly mae hi’n siomedig pan na chânt eu bodloni.
“Yn achos y Blaid Genedlaethol Brydeinig, gwnaethom ystyried tair trosedd yn ein hymchwiliad. Roedd dwy drosedd yn gysylltiedig â methiant y blaid i adrodd am ddau rodd sylweddol. Mewn trosedd ar wahân, darparodd y blaid ei chyfrifon ar gyfer 2020 dros fis yn hwyr.
“Yn sgil ein hymchwiliad i Burning Pink cafwyd bod dim trosedd. Pan fod rhesymau rhesymol i ystyried bod trosedd wedi’i chyflawni, mae’n bwysig ein bod yn ymchwilio i ganfod p’un a gyflawnwyd un ai peidio.
Diwedd
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa cyfryngau’r Comisiwn Etholiadol drwy ffonio 020 7271 0704, neu 07789 920 414 tu allan i oriau swyddfa. Fel arall gallwch e-bostio [email protected]
Notes to editors
Nodiadau i olygyddion
1. Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb trwy’r canlynol:
- galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr, a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n cyson newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch
- rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth a mynd ar ôl achosion o dorri rheolau
- defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i'n democratiaeth ac eirioli drostynt, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd
Sefydlwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd Cymru, Senedd y DU a Senedd yr Alban.
2. Mae'r datganiad hwn yn rhan o ddiweddariad misol ymchwiliadau'r Comisiwn. Dyma ran bwysig o'i ymrwymiad i sicrhau bod cyllid gwleidyddol y DU yn dryloyw. Caiff gwybodaeth o'r natur hon ei chyhoeddi'n rheolaidd ar drydydd dydd Mawrth pob mis. Mae manylion cosbau o'r misoedd blaenorol ar gael.
3. Mae unrhyw gosbau sydd wedi'u rhoi gan y Comisiwn yn mynd i'r Gronfa Gyfunol. Caiff hon ei rheoli gan Drysorlys EM ac nid y Comisiwn Etholiadol.