Atal achosion o godi ofn ar ymgeiswyr
Newidiadau a gyflwynwyd gan y llywodraeth
Cyflwynodd Deddf Etholiadau Llywodraeth y DU gosb newydd i unrhyw un a geir yn euog o godi ofn ar ymgeiswyr, ymgyrchwyr neu gynrychiolwyr etholedig.
Gallai unrhyw un a geir yn euog o'r ymddygiad hwn gael ei wahardd rhag sefyll am swydd etholedig am bum mlynedd. Mae hyn yn berthnasol i bob swydd etholedig yn y DU, ac eithrio aelodau Senedd yr Alban ac aelodau llywodraeth leol yr Alban. Bydd Bil Etholiadau’r Alban (Cynrychiolaeth a Diwygio) yn estyn y gorchmynion anghymwyso i’r etholiadau hyn.
Mae hyn yn ychwanegol at gosbau sydd eisoes ar waith ar gyfer y rhai sy'n euog o droseddau bygythiol presennol, megis ymosodiad cyffredin, aflonyddu, a defnyddio iaith fygythiol.
Ein barn
Bu pryder cynyddol mewn etholiadau diweddar ynglŷn ag ymddygiad sy'n codi ofn neu ymddygiad bygythiol tuag at ymgeiswyr ac ymgyrchwyr.
Yn sgil etholiad cyffredinol y DU yn 2019, dywedodd dros hanner yr ymgeiswyr y cawsom sgwrs â nhw eu bod yn pryderu am sefyll etholiad oherwydd y risg o ymddygiad sy'n codi ofn, bygythiadau a chamdriniaeth. Dywedodd tri chwarter yr ymatebwyr eu bod wedi cael profiad o'r ymddygiad hwn. Pan ofynnwyd iddynt faint o broblem oedd gan ymgeiswyr gydag aflonyddu, brawychu, neu fygythiadau yn etholiadau mis Mai 2023, dywedodd 36% o’r ymgeiswyr a ymatebodd i’n harolwg fod ganddynt ryw fath o broblem (gan raddio hyn fel dau neu uwch ar raddfa o un i bump). Fodd bynnag, pan ddangoswyd rhestr o fathau o aflonyddu iddynt a gofyn a oeddent wedi profi unrhyw un ohonynt yn ystod yr ymgyrch, dywedodd 55% o'r ymatebwyr eu bod wedi profi un o'r senarios o leiaf unwaith.
Mae'n hollbwysig bod camau yn cael eu cymryd yn erbyn y rhai sy'n cam-drin, bygwth neu godi ofn ar ymgeiswyr ac ymgyrchwyr. Ni ellir gadael i'r ymddygiad hwn wneud i bobl fod yn amharod i sefyll etholiad neu ymgyrchu.
Mae Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu, gan weithio gyda Gwasanaeth Erlyn y Goron a'r Comisiwn Etholiadol, wedi llunio canllawiau i ymgeiswyr ac ymgyrchwyr i'w helpu i ddeall pan fydd ymddygiad yn mynd y tu hwnt i ddadl wleidyddol ac y gallai fod yn anghyfreithlon. Mae'r canllawiau hefyd yn rhoi mwy o fanylion am droseddau posibl, a ble i ddod o hyd i gyngor ar gadw eich hun yn ddiogel, gan gynnwys ar-lein.
Bydd gwahardd rhywun rhag sefyll etholiad am swydd etholedig, yn ogystal â gosod cosbau troseddol, megis dedfryd o garchar neu ddirwy, yn cryfhau'r mesurau atal rhag yr ymddygiad hwn sy'n codi ofn.
Darllen pellach
Darllen pellach
- Datganiad Gweinidogol Ysgrifenedig y Llywodraeth: Strengthening transparency and fairness in elections, 2021
- Ein hymateb i ymgynghoriad polisi Llywodraeth y DU: Protecting the Debate
- Ein harolwg o ymgeiswyr ar ôl etholiad cyffredinol Senedd y DU yn 2019
- Ein hadroddiad ar etholiadau lleol Mai 2023 yn Lloegr
- Canllawiau ar aflonyddu a chodi ofn