Newidiadau i wariant tybiannol
Summary
Mae'r rheolau ynghylch gwariant tybiannol ymgeiswyr ac asiantiaid, yn ogystal â'r rheolau ynghylch gwneud taliadau, wedi newid.
Newidiadau
Mae gwariant tybiannol yn cyfeirio at achosion pan roddir gwasanaethau neu nwyddau i ymgeisydd yn rhad ac am ddim neu am bris gostyngol.
Mae'r prawf cyfreithiol ar gyfer pryd y mae angen i ymgeiswyr gofnodi gwariant tybiannol yn erbyn eu terfyn gwariant eu hunain bellach wedi newid. Nawr, dim ond os bydd yr ymgeisydd neu ei asiant ‘yn awdurdodi, yn cyfarwyddo neu’n annog’ y defnydd hwnnw yr ystyrir bod rhywun yn defnyddio eitem ar ran yr ymgeisydd.
Mae'r newid hwn hefyd yn gymwys i wariant tybiannol ar ran pleidiau, ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau, ymgyrchwyr refferenda ac ymgyrchwyr deisebau adalw.
Mae'r rheolau ar gyfer gwneud taliadau am wariant wedi newid hefyd. Nawr, os bydd yr asiant wedi rhoi awdurdodiad ysgrifenedig i rywun fynd i wariant ar ran yr ymgeisydd, yna bydd yr unigolyn a awdurdodwyd i fynd i'r gwariant yn gallu gwneud y taliad am y gwariant hwnnw hefyd.
Mae’r newidiadau’n berthnasol i’r etholiadau canlynol:
- Etholiadau Senedd y DU
- Etholiadau Cynulliad Gogledd Iwerddon
- Etholiadau lleol yn Lloegr
- Etholiadau lleol yng Ngogledd Iwerddon
- Etholiadau Awdurdod Llundain Fwyaf
- Etholiadau maerol awdurdodau cyfun
- Etholiadau maerol awdurdodau lleol
- Etholiadau cynghorau plwyf
- Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu
Ein rôl
Rydym wedi diweddaru ein dogfennau canllaw cyffredinol ar wariant i adlewyrchu'r rheolau newydd, ac rydym wedi cyhoeddi tudalen benodol o ganllawiau ar y newidiadau.
Byddwn yn cyhoeddi canllawiau diwygiedig sy'n benodol i etholiad ar gyfer ymgeiswyr, pleidiau ac ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau pan gaiff etholiadau eu cynnal, i'w helpu i ddeall a chydymffurfio â'r gofynion cyfreithiol newydd.