Gall rhai pobl wrthwynebu dilysrwydd ffurflen enwebu neu ffurflen cyfeiriad cartref. Ceir rhagor o wybodaeth am bwy sy'n gallu gwrthwynebu enwebiadau yn ein canllawiau i Swyddogion Canlyniadau Ardal Heddlu ar bresenoldeb wrth gyflwyno papurau enwebu.
Gellir gwneud gwrthwynebiadau ar y diwrnod olaf ar gyfer derbyn enwebiad, sef y pedwerydd diwrnod gwaith ar bymtheg cyn yr etholiad.
Amserlen ar gyfer gwrthwynebiadau
Bydd y cyfnod a ganiateir i wrthwynebu yn dibynnu ar pryd y cyflwynir y ffurflen enwebu a'r ffurflen cyfeiriad cartref.1
Pryd y cafodd y ffurflen enwebu ei chyflwyno?
Pryd y gellir gwrthwynebu'r ffurflen enwebu?
Enwebiadau a gyflwynir hyd at 4pm ar y diwrnod cyn y terfyn amser ar gyfer cyflwyno papurau enwebu (E-20)
Rhaid gwrthwynebu rhwng 10am a chanol dydd ar y diwrnod olaf ar gyfer cyflwyno papurau enwebu (E-19).
Enwebiadau a gyflwynir ar ôl 4pm ar y diwrnod cyn y terfyn amser ar gyfer cyflwyno papurau enwebu (E-20)
Rhaid gwrthwynebu rhwng 10am a 5pm ar y diwrnod olaf ar gyfer cyflwyno papurau enwebu (E-19) a hefyd rhaid gwneud hynny ar adeg cyflwyno'r enwebiad, neu yn syth ar ôl hynny.