Pan fyddwch wedi penderfynu bod ffurflen enwebu yn ddilys, ni ellir ei herio yn ystod yr etholiad, er y gellir ei herio ar ôl yr etholiad ar ffurf deiseb etholiadol.1
Os byddwch wedi gwneud penderfyniad ffurfiol ond, o ganlyniad i wrthwynebiad, yn penderfynu wedyn y dylai'r ffurflen enwebu fod wedi'i phennu'n annilys mewn gwirionedd, cewch wneud penderfyniad pellach i'r perwyl hwn.
Os yw ffurflen enwebu wedi cael ei phennu'n annilys, rhaid i chi:2
nodi'r ffaith honno ar y ffurflen enwebu
nodi'r rhesymau dros ei gwrthod ar y ffurflen enwebu