| Argraffu'r canllawiau llawn

Tynnu'n ôl

Gallwch chi fel Swyddog Enwebu (neu rywun a benodwyd yn ysgrifenedig gennych chi) dynnu eich rhestr plaid gyfan yn ôl, neu un neu fwy o’r ymgeiswyr o'r rhestr plaid drwy lofnodi a chyflwyno hysbysiad tynnu’n ôl.1 Nid oes unrhyw gyfyngiadau ar bwy gaiff gyflwyno’r hysbysiad, ond rhaid ei ddanfon i’r Swyddog Canlyniadau:2

  • â llaw i'r man ar gyfer cyflwyno papurau enwebu
  • yn electronig yn unol â’r trefniadau a nodir yn yr hysbysiad etholiad

erbyn y dyddiad cau ar gyfer tynnu’n ôl, 4pm, 19 diwrnod gwaith cyn y bleidlais.3

Gall ymgeisydd ar y rhestr plaid dynnu’n ôl o’r etholiad hefyd drwy gyflwyno hysbysiad tynnu’n ôl, y mae'n rhaid iddo ei lofnodi ym mhresenoldeb tyst i ardystio ei lofnod. 4

Gellir cael hysbysiad tynnu’n ôl gan y Swyddog Canlyniadau neu ei lawrlwytho oddi ar ein gwefan:

Os byddwch yn tynnu rhestr plaid lawn yn ôl, dychwelir yr ernes gyfan.

Os yw ymgeisydd ar y rhestr plaid yn tynnu’n ôl neu’n cael eu tynnu’n ôl gennych chi, bydd dychwelyd yr ernes yn ddibynnol ar nifer yr ymgeiswyr sy’n parhau ar y rhestr plaid. Os oes llai na chwech o ymgeiswyr yn weddill, bydd cyfran o’r ernes yn cael ei dychwelyd.

Ar ôl y dyddiad cau ar gyfer tynnu’n ôl, nid yw’n bosibl tynnu’n ôl o’r etholiad.

Diweddarwyd ddiwethaf: 1 Ebrill 2026