| Argraffu'r canllawiau llawn

Cwblhau eich papurau enwebu

Fel Swyddog Enwebu plaid wleidyddol gofrestredig, cewch gyflwyno rhestr o hyd at 8 ymgeisydd i sefyll mewn etholaeth.1

Rhaid i'r blaid fod yn blaid wleidyddol gymwys.2 Plaid wleidyddol gymwys yw un sydd wedi'i chofrestru ar gofrestr pleidiau gwleidyddol y Comisiwn ac wedi'i rhestru fel un sydd â chaniatâd i gyflwyno ymgeiswyr yng Nghymru.3

I ymladd yr etholiad, mae angen i chi neu rywun a benodwyd yn ysgrifenedig i weithredu ar eich rhan, gyflwyno set gyflawn o bapurau enwebu i’r lle a nodwyd gan y Swyddog Canlyniadau perthnasol gyda’r ernes ar gyfer pob ymgeisydd rhestr plaid erbyn 4pm, 19 diwrnod gwaith cyn y bleidlais.4

Mae’r terfyn amser hwn wedi’i nodi yn y gyfraith ac ni ellir ei newid am unrhyw reswm.

Bydd y dyddiad ar gyfer cyflwyno papurau enwebu, yn ogystal â’r amseroedd a’r trefniadau ar gyfer eu cyflwyno â llaw neu’n electronig, yn cael eu nodi yn yr hysbysiad etholiad a gyhoeddir gan y Swyddog Canlyniadau.5

Mae tri phapur enwebu y mae’n rhaid i chi eu cyflwyno i wneud yr enwebiad rhestr plaid yn ddilys:6

  • y ffurflen enwebu ar gyfer y rhestr plaid sydd hefyd yn awdurdodi defnyddio enw’r blaid
  • ffurflen cyfeiriad cartref ar gyfer pob ymgeisydd ar y rhestr
  • ffurflen cydsynio ag enwebiad gan gynnwys datganiad o aelodaeth plaid ar gyfer pob ymgeisydd ar y rhestr

Fel Swyddog Enwebu, gallwch hefyd wneud cais ysgrifenedig i un o arwyddluniau’r blaid ymddangos ar y papur pleidleisio.7  Am fwy o wybodaeth gweler ein canllawiau ar geisiadau i ddefnyddio arwyddlun ar y papur pleidleisio.

Gall y Swyddog Canlyniadau bennu bod papur enwebu’r blaid yn annilys os.8

  • nad yw’r blaid a’r enw plaid neu’r disgrifiad a roddir wedi’u cofrestru gyda’r Comisiwn (heb gynnwys y rhagddodiad ‘Welsh’ neu’r ôl-ddodiad ‘Cymru’)
  • nad yw'r blaid neu'r disgrifiad a ddefnyddir wedi’u hawdurdodi gan dystysgrif awdurdodi yn y ffurf benodedig
  • nad yw’r papur wedi’i lofnodi yn ôl y gofyn
  • nad yw'r rhestr plaid wedi'i chynnwys ym mhapur enwebu’r blaid
  • yw’r rhestr plaid yn cynnwys mwy nag 8 person
  • yw pob ymgeisydd ar y rhestr plaid wedi rhoi'r gorau i fod yn ymgeisydd enwebedig oherwydd eu bod wedi tynnu'n ôl neu yn sgil eu marwolaeth

Gall y Swyddog Canlyniadau benderfynu bod ymgeisydd rhestr plaid penodol wedi rhoi'r gorau i fod yn ymgeisydd enwebedig. Y seiliau dros y penderfyniad hwn yw:9

  •  nad yw manylion ymgeisydd ar y rhestr honno fel sy'n ofynnol gan y gyfraith
  • bod ymgeisydd wedi'i anghymhwyso o dan adran 16(A1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 rhag bod yn Aelod o'r Senedd, a rhag bod yn ymgeisydd i fod yn Aelod o'r Senedd
  • bod ymgeisydd yn y rhestr, yn yr un etholiad, yn ymgeisydd unigol neu'n ymgeisydd ar unrhyw restr plaid arall yn yr un etholaeth neu etholaeth arall

Gall y Swyddog Canlyniadau hefyd wrthod enwebiad ymgeisydd rhestr plaid os daw i’r casgliad ei fod yn amlwg yn ffug, er enghraifft, os rhoddir enw sy’n amlwg yn ddychmygol.

Gellir cael papur enwebu gan y Swyddog Canlyniadau. Gellir cael manylion cyswllt oddi ar ein gwefan. Fel arall, rydym wedi cynhyrchu set o bapurau enwebu y gallech eu defnyddio:
 

Os nad ydych chi (neu rywun sydd wedi’u penodi’n ysgrifenedig i weithredu ar eich rhan) yn gallu llenwi’r ffurflen enwebu, gall y Swyddog Canlyniadau helpu drwy baratoi’r ffurflen i chi ei llofnodi. Dylech holi’r Swyddog Canlyniadau ar y cyfle cyntaf pa gymorth a allai fod ar gael.

Efallai y bydd y Swyddog Canlyniadau hefyd yn gallu cynnig gwiriadau anffurfiol o’ch papurau enwebu wedi’u cwblhau cyn i chi eu cyflwyno. Bydd y Swyddog Canlyniadau yn gallu cadarnhau a ydyn nhw'n bwriadu cynnig gwiriadau anffurfiol. 

Sylwer bod yn rhaid i unrhyw wybodaeth a roddwch ar y papurau enwebu fod yn wir hyd eithaf eich gwybodaeth (neu hyd eithaf gwybodaeth y sawl a benodir yn ysgrifenedig i weithredu ar eich rhan). Mae’n drosedd rhoi datganiad anwir ar bapurau enwebu.10 Gallai darparu datganiad anwir ddirymu ethol ymgeiswyr ar restr y blaid, ac mae modd cosbi hynny hefyd â dirwy ddigyfyngiad a/neu garchariad.

Diweddarwyd ddiwethaf: 30 Mawrth 2026