A fydd yr etholiad yn cael ei hymladd neu a fydd yn ddiwrthwynebiad?
Mae'r etholiad yn ddiwrthwynebiad os yw nifer yr ymgeiswyr sy’n sefyll mewn etholiad (boed ar restr plaid neu’n ymgeiswyr unigol) yr un faint neu’n llai na nifer y seddi ar gyfer yr etholaeth.1
Yn yr amgylchiadau hyn, bydd y Swyddog Canlyniadau yn datgan seddi’r Senedd ar gyfer yr etholaeth yn unol â’r rheolau.
Os cânt eu hethol mewn etholiad diwrthwynebiad, rhaid i ymgeiswyr rhestr plaid wneud datganiad o hyd ynghylch eu gwariant personol.
Cyhoeddi datganiad ynghylch pleidiau a phersonau a enwebwyd
Bydd y Swyddog Canlyniadau yn cyhoeddi datganiad o bleidiau ac unigolion a enwebwyd, gan gynnwys hysbysiad o etholiad ar gyfer yr etholaeth, erbyn 4pm fan bellaf, 18 diwrnod gwaith cyn y bleidlais.2
pob plaid gofrestredig ynghyd â rhestr o ymgeiswyr a enwebwyd yn ddilys
pob ymgeisydd unigol a enwebwyd yn ddilys
enw llawn pob rhestr plaid neu ymgeisydd unigol neu enw(au) a ddefnyddir yn gyffredin os ydynt wedi rhoi un
y disgrifiad ‘Annibynol’ ac/neu ‘Independent’ (os yw’n berthnasol) ar gyfer ymgeiswyr unigol nad ydynt yn sefyll ar ran plaid wleidyddol
cyfeiriadau cartref pob ymgeisydd rhestr plaid, neu os ydynt wedi gofyn am beidio â chyhoeddi eu cyfeiriad cartref, yr ardal berthnasol sef:
enw’r etholaeth Senedd Cymru os yw’r cyfeiriad cartref yng Nghymru-,
enw etholaeth Seneddol y DU os yw’r cyfeiriad cartref mewn man arall yn y DU,
y wlad os yw eu cyfeiriad cartref y tu allan i’r DU
y wybodaeth a gynhwysir yn natganiad pob ymgeisydd o aelodaeth o bleidiau gwleidyddol, fel y’i rhoddwyd yn eu ffurflen cydsynio ag enwebiad
unrhyw bleidiau cofrestredig neu ymgeiswyr unigol nad ydynt yn ymgeiswyr enwebedig mwyach, os o gwbl (h.y. ymgeiswyr neu bleidiau annilys a rhai sydd wedi'u tynnu'n ôl), gyda'r rheswm pam nad ydynt yn sefyll mwyach.
Manylion cyswllt ymgeisydd
Lle rydych chi wedi darparu eich manylion cyswllt e-bost neu ffôn i'r Swyddog Canlyniadau drwy'r ffurflen manylion cyswllt ymgeisydd, caiff y manylion hyn eu rhannu â'r heddlu i'w galluogi i roi unrhyw ddiweddariadau neu gyngor penodol ar ganllawiau diogelwch i chi ar gyfer yr etholiadau hyn.
Bydd y manylion cyswllt hyn hefyd yn cael eu rhannu gyda Bwrdd Rheoli Etholiadau Cymru.