Canllawiau ar gyfer ymgeiswyr ac asiantiaid yn etholiad Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu

Beth fydd yn digwydd i waith papur yr etholiad ar ôl i'r canlyniad gael ei ddatgan?

Ar ôl i'r canlyniad gael ei ddatgan, caiff yr holl ddogfennau etholiadol eu cadw'n ddiogel gan y Swyddog Cofrestru Etholiadol am gyfnod o 12 mis.1
 
Mae'r rhan fwyaf o ddogfennau ar gael i'r cyhoedd eu harchwilio. Nodwch nad yw papurau pleidleisio ar gael i'r cyhoedd eu harchwilio.

Archwilio a darparu'r cofrestrau a'r rhestrau o bleidleiswyr absennol wedi'u marcio 

Mae'r cofrestrau etholiadol a'r rhestrau pleidleiswyr absennol wedi'u marcio yn dangos pwy sydd wedi cael papur pleidleisio, pwy sydd wedi dychwelyd ei bapur pleidleisio drwy'r post, a phwy sydd wedi trefnu bod pleidlais drwy ddirprwy yn cael ei bwrw ar ei ran.

Gallwch archwilio neu gael copïau o'r gofrestr etholwyr a'r rhestrau o bleidleiswyr absennol wedi'u marcio ar ôl yr etholiad os gwnewch gais ysgrifenedig i'r Swyddog(ion) Cofrestru Etholiadol.2  Mae manylion cyswllt ar gael ar ein gwefan: www.electoralcommission.org.uk/cy/rwyf-yneg-pleidleisiwr/pleidleisiwr/gwybodaeth-etholiad

Noder mai dim ond at ddibenion ymchwil neu ddibenion etholiadol y gallwch ddefnyddio'r wybodaeth a geir o'r dogfennau hyn.

Rhaid i'r cais am archwiliad nodi:3

  • pa ddogfennau y gwneir cais amdanynt
  • at ba ddibenion y defnyddir y wybodaeth mewn unrhyw ddogfen
  • pan fo'r cais ar gyfer archwilio'r gofrestr neu'r rhestrau wedi'u marcio, unrhyw reswm pam na fyddai archwilio'r gofrestr lawn neu'r rhestrau heb eu marcio yn ddigon at y diben hwnnw
  • pwy fydd yn archwilio'r dogfennau
  • y dyddiad yr hoffai'r unigolyn archwilio'r dogfennau, ac 
  • a fyddai'n well ganddo archwilio'r dogfennau ar ffurf argraffedig neu ddata

Caiff archwiliadau eu cynnal dan oruchwyliaeth a byddant yn rhad ac am ddim. Ni fyddwch yn cael mynd â chopïau, ond gallwch wneud nodiadau â llaw.

Rhaid i'r cais nodi'r canlynol:4  

  • pa gofrestr neu restrau wedi'u marcio (neu'r rhan berthnasol o'r gofrestr neu'r rhestrau) y gwneir cais amdani/amdanynt
  • a yw'r sawl sy'n gwneud cais am gael copi argraffedig o'r cofnodion neu'r rhestrau neu gopi ar ffurf data
  • at ba ddibenion y defnyddir y gofrestr neu'r rhestrau wedi'u marcio a pham na fyddai darparu neu brynu copi o'r gofrestr lawn neu restrau heb eu marcio yn ddigon i gyflawni'r diben hwnnw

Codir ffi o £10 ynghyd â £2 am fersiwn argraffedig a £1 am fersiwn ddata fesul 1,000 o gofnodion am y ddogfen y gwneir cais amdani.5
 
Noder ar ôl 12 mis, gall y dogfennau hyn, a gedwir gan y Swyddog Cofrestru Etholiadol perthnasol, gael eu dinistrio, oni fydd gorchymyn llys yn nodi'n wahanol.6
 
O dan ddeddfwriaeth diogelu data bresennol, ni chaiff data personol a brosesir at unrhyw ddiben eu cadw am fwy nag sydd ei angen at y diben hwnnw. Os byddwch yn gwneud cais am y wybodaeth a restrir uchod ac yn ei derbyn, unwaith y bydd diben casglu'r data hyn wedi darfod, bydd angen i chi ystyried a oes rheswm dros gadw'r data hynny. Os nad oes rheswm, dylech sicrhau bod unrhyw ddata a gedwir yn cael eu dinistrio'n ddiogel.

Archwilio dogfennau etholiadol eraill

Gallwch archwilio dogfennau etholiadol eraill, ond ni fyddwch yn cael gwneud unrhyw nodiadau na chymryd copïau o'r dogfennau hyn.7  Yr unig ddogfennau na ellir eu harchwilio yw:

  • y papurau pleidleisio
  • y rhestrau rhifau cyfatebol
  • y tystysgrifau sy'n caniatáu i staff gorsafoedd pleidleisio bleidleisio yn yr orsaf bleidleisio y maent yn gweithio ynddi
  • papurau enwebu
  • y Rhestr o Bapurau Pleidleisio a Wrthodwyd (dim ond ar gais ar ôl iddo gael ei wrthod y gellir datgelu gwybodaeth o'r rhestr hon ar gais i'r etholwr perthnasol neu'r dirprwy)8   

Ni ellir archwilio papurau enwebu ar ôl yr etholiad. Dim ond pobl benodol all eu harchwilio cyn 4pm, 19 diwrnod gwaith cyn y diwrnod pleidleisio (5pm mewn rhai amgylchiadau).

Ar ôl 12 mis, caiff yr holl ddogfennau etholiadol, a gedwir gan y Swyddog Cofrestru Etholiadol, eu dinistrio, oni fydd gorchymyn llys yn nodi'n wahanol.9  

Archwilio ffurflenni gwariant etholiadol 

Caiff ffurflenni gwariant a datganiadau eu cadw gan Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu. Gall unrhyw un eu harchwilio ar ôl iddynt gael eu cyflwyno.10  Mae copïau hefyd ar gael am ffi o 15c fesul ochr tudalen. 

Cedwir ffurflenni gwariant a datganiadau am ddwy flynedd. Gallwch wneud cais am iddynt gael eu dychwelyd atoch chi neu at eich asiant ar ddiwedd y cyfnod hwn. Os na fyddwch chi na'ch asiant am eu cael yn ôl, caiff y ffurflenni gwariant a'r datganiadau eu dinistrio.

 

Diweddarwyd ddiwethaf: 23 Ebrill 2024