Canllawiau ar gyfer ymgeiswyr ac asiantiaid yn etholiad Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu
Terfynau amser
Ar ôl yr etholiad, dylai'r asiant sicrhau'r canlynol:
- rhaid i bob anfoneb ddod i law o fewn 21 diwrnod calendr ar ôl i ganlyniad yr etholiad gael ei ddatgan1
- rhaid i bob anfoneb gael ei thalu o fewn 28 diwrnod calendr ar ôl i ganlyniad yr etholiad gael ei ddatgan2
- caiff ffurflen gwariant etholiad sy'n nodi manylion gwariant a rhyddion yr ymgeisydd, ynghyd â datganiad yn cadarnhau bod y ffurflen yn gyflawn ac yn gywir hyd eithaf ei wybodaeth a'i gred3 , ei chyflwyno i Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu o fewn 70 diwrnod ar ôl i'r etholiad gael ei ddatgan4
Nodwch, os bydd y dyddiad cau ar gyfer unrhyw un o'r uchod ar benwythnos neu ŵyl y banc, bydd y dyddiad cau yn symud i'r diwrnod gwaith nesaf.5 Mae hyn wedi'i gynnwys o fewn y cyfrifiadau dyddiadau cau canlynol.
Dyddiad cyhoeddi'r canlyniad | Dyddiad olaf i | ||
---|---|---|---|
Dderbyn eich anfonebau | Talu eich anfonebau | Cyflwyno eich ffurflen a'ch datganiad asiant | |
2 Mai 2024 | 23 Mai 2024 | 30 Mai 2024 | 11 Gorffennaf 2024 |
3 Mai 2024 | 24 Mai 2024 | 31 Mai 2024 | 12 Gorffennaf 2024 |
4 Mai 2024 | 28 Mai 2024 | 3 Mehefin 2024 | 15 Gorffennaf 2024 |
Rhaid i'r ymgeisydd ddarparu datganiad ysgrifenedig o'i dreuliau personol i'w asiant o fewn 21 diwrnod i ddatgan y canlyniad.6
Rhaid i'r ymgeisydd hefyd anfon datganiad at Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu yn cadarnhau bod y ffurflen yn gyflawn ac yn gywir hyd eithaf ei wybodaeth a'i gred. Rhaid gwneud hyn o fewn saith diwrnod gwaith i gyflwyno'r ffurflen.7
Os bydd yr ymgeisydd y tu allan i'r Deyrnas Unedig pan fydd angen cyflwyno'r datganiad, caiff y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno'r datganid ei ymestyn i 14 diwrnod ar ôl iddo ddychwelyd.8
Rhaid i chi gyflwyno ffurflen, hyd yn oed os nad ydych wedi gwario unrhyw arian.9
Gelwir hwn yn ddatganiad ‘dim trafodion’.
Mae canlyniadau os na fyddwch yn dychwelyd ffurflenni gwariant, ac mae'r rhain wedi'u nodi yn ‘Beth fydd yn digwydd os na chaiff ffurflen gwariant neu ddatganiad eu cyflwyno?’
Anfonebau sy'n dod i law neu sy'n cael eu talu ar ôl y terfynau amser
Rydym yn galw hawliadau (anfonebau ar gyfer gwariant gan ymgeisydd) nas derbynnir gan yr asiant etholiad o fewn y terfyn amser o 21 diwrnod yn hawliadau heb eu talu.
Ni ellir yn gyfreithlon dalu hawliadau heb eu talu oni cheir gorchymyn llys yn caniatáu talu'r hawliad.10
Gall fod yn drosedd talu hawliad heb ei dalu heb orchymyn llys.11
Rydym yn galw hawliadau (anfonebau) a gyflwynwyd o fewn y terfyn amser o 21 diwrnod ond nad ydynt wedi cael eu talu o fewn y terfyn amser o 28 diwrnod yn hawliadau y mae anghydfod yn eu cylch.
Ni ellir yn gyfreithlon dalu hawliadau y mae anghydfod yn eu cylch heb i orchymyn llys gael ei roi gyntaf yn caniatáu talu'r hawliad.12
Rhaid rhoi gwybod am unrhyw hawliad sy'n cael ei dalu:
- ar ôl y terfyn amser o 21 diwrnod i dderbyn anfoneb; neu
- ar ôl y terfyn amser o 28 diwrnod ar gyfer taliadau,
ar ôl cais llwyddiannus i'r llys, ac ar ôl y terfyn amser ar gyfer cyflwyno ffurflenni gwariant etholiad, yn ysgrifenedig i'r swyddog canlyniadau o fewn saith diwrnod i'w dalu, ynghyd â chopi o'r gorchymyn llys.13
Rhaid i chi hefyd anfon copi o'r Gorchymyn i'r Comisiwn Etholiadol.
- 1. Erthygl 37(1), Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Erthygl 37(2), Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Erthygl 41, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Erthygl 40(1), Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Adran 119, Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Erthygl 32(3) ac erthygl 37(1), Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Erthygl 41(2), Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 7
- 8. Erthygl 41(3), Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 8
- 9. Erthygl 40(1), Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 9
- 10. Erthygl 37(1) a (5), Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 10
- 11. Erthygl 37(3), Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 11
- 12. Erthygl 37 (2) a (5) ac erthygl 38(3), Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 12
- 13. Erthygl 40(4), Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 13