Canllawiau ar gyfer ymgeiswyr ac asiantiaid yn etholiad Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu

Deisebau etholiadol

Gellir herio canlyniad etholiad ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu drwy ddeiseb etholiadol.

Cyflwyno deiseb etholiadol

Dim ond rhai pobl a gaiff gyflwyno deiseb etholiadol, a dim ond o dan amgylchiadau arbennig.

Gellir cyflwyno deiseb etholiad ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu gan:1

  • rhywun sy'n honni ei fod yn ymgeisydd yn yr etholiad, neu
  • o leiaf bedwar etholwr (nad ydynt yn etholwyr sydd wedi cofrestru'n ddienw) a oedd â hawl i bleidleisio yn yr etholiad (noder nad oes angen iddynt fod wedi pleidleisio).

Y seiliau a ganiateir dros ddeiseb yw:2

  • bod yr ymgeisydd llwyddiannus wedi'i anghymhwyso ar adeg yr etholiad
  • nad oedd yr ymgeisydd llwyddiannus wedi'i ethol yn briodol
  • bod yr etholiad yn annilys oherwydd arferion llygredig neu anghyfreithlon
  • bod yr etholiad yn annilys oherwydd llygredd cyffredinol neu benodi canfasiwr/asiant llwgr3

Rhaid i Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu y gwneir cwyn ynglŷn â'i ethol fod yn wrthapeliwr i'r ddeiseb. Os bydd y ddeiseb yn cwyno am ymddygiad y Swyddog Canlyniadau (naill ai Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu a/neu y Swyddog Canlyniadau Lleol) neu ei staff yn ystod yr etholiad, gall y Swyddog(ion) Canlyniadau fod yn wrthapeliwr hefyd.4
 
Fel arfer, rhaid cyhoeddi'r ddeiseb o fewn 21 diwrnod calendr ar ôl dyddiad yr etholiad. Fodd bynnag, os bydd y ddeiseb yn cwyno am arferion llwgr neu anghyfreithlon sy'n ymwneud â thalu arian neu roi math arall o wobr, neu arfer anghyfreithlon sy'n ymwneud â gwariant etholiadol, gellir caniatáu mwy o amser.5
 
Ar gyfer unrhyw gwestiynau sy'n ymwneud â deisebau etholiadol, yn cynnwys cadarnhau'r dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno deiseb etholiadol, dylech gysylltu â:

The Election Petitions Office
Room E105
Royal Courts of Justice
Strand
London
WC2A 2LL

E-bost: [email protected]

Ffôn: 0207 947 6877

Mae costau yn gysylltiedig â deiseb etholiadol. Os ydych yn ystyried cyflwyno deiseb etholiadol, rydym yn argymell yn gryf y dylech gael cyngor cyfreithiol annibynnol.

Diweddarwyd ddiwethaf: 23 Ebrill 2024