Canllawiau ar gyfer ymgeiswyr ac asiantiaid yn etholiad Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu

Cwblhau eich ffurflen

Gelwir yr adroddiad ar wariant a rhoddion yn ‘ffurflen’.

Rhaid i'r asiant gwblhau'r ffurflen, ac mae'n rhaid iddi gynnwys y canlynol ar gyfer pob eitem gwariant:

  • ar gyfer beth roedd y gwariant, er enghraifft, taflenni neu hysbysebu
  • enw a chyfeiriad y cyflenwr
  • y swm neu'r gwerth
  • manylion pryd yr aed i'r gwariant a phryd y'i talwyd
  • manylion unrhyw symiau sydd heb eu talu neu y mae anghydfod yn eu cylch
  • manylion unrhyw wariant tybiannol, a datganiad o'i werth1
  • anfonebau neu dderbynebau ar gyfer unrhyw daliad o £20 neu fwy2
  • manylion unrhyw dreuliau personolexpenses3

Rhaid i'r ffurflen hefyd gynnwys manylion pob rhodd dros £50 ac unrhyw wariant ymgyrchu lleol awdurdodedig.4  Mae rhagor o wybodaeth am y manylion y mae angen i chi eu cofnodi yn Gwariant ymgeiswyr a Rhoddion ymgeiswyr

Rhaid i'r ymgeisydd a'r asiant hefyd lofnodi datganiad bod y ffurflen yn gyflawn ac yn gywir hyd eithaf eu gwybodaeth a'u cred.5   Eich cyfrifoldeb chi yw rhoi gwybodaeth lawn a chywir am wariant ymgeisydd.

Mae'n drosedd gwneud datganiad ffug yn fwriadol.6

Ffurflenni y bydd eu hangen arnoch:

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Ebrill 2024