Canllawiau ar gyfer ymgeiswyr ac asiantiaid yn etholiad Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu

Pryd a ble y cynhelir y cyfrif?

Gall y broses ddilysu a'r cyfrif ddigwydd yn syth ar ôl diwedd y cyfnod pleidleisio neu gall y Swyddog Canlyniadau benderfynu dilysu a chyfrif yn ystod y diwrnod(au) canlynol.

Bydd y Swyddog Canlyniadau yn eich hysbysu am yr union amser a lleoliad a bydd yn gofyn i chi ddarparu rhestr o bwy fydd yn dod gyda chi. Gweler ein canllawiau ar bwy all fynychu'r cyfrif ac ar benodi asiantiaid cyfrif am ragor o wybodaeth.

Bydd y Swyddog Canlyniadau yn rhoi cyfarwyddiadau neu wahoddiad gydag unrhyw ofynion sydd ganddo ar gyfer bod yn bresennol. Gallai hyn gynnwys gwybodaeth am unrhyw fesurau diogelwch ychwanegol sydd ar waith megis ei gwneud yn ofynnol i fynychwyr ddangos prawf adnabod a gofyn am gael gwirio eu bagiau cyn cael mynediad, yn ogystal â gwybodaeth am y safonau ymddygiad a ddisgwylir ar gyfer mynychwyr. Dylech sicrhau bod y cyfarwyddiadau hyn yn cael eu dilyn gennych chi ac unrhyw un arall sy'n dod gyda chi.
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 5 Rhagfyr 2024