Bydd staff y Swyddog Canlyniadau Lleol yn cludo'r blychau pleidleisio o'r gorsafoedd pleidleisio i leoliad y cyfrif
Bydd staff y Swyddog Canlyniadau Lleol yn cofnodi'r blychau pleidleisio wrth iddynt gyrraedd lleoliad y cyfrif
Cam 2 – Dilysu
Caiff blychau pleidleisio eu gwagio ar fyrddau a dangosir y blychau gwag i asiantiaid.
Bydd y staff yn cyfrif y papurau pleidleisio o bob gorsaf bleidleisio
Bydd staff yn cadarnhau bod nifer y papurau pleidleisio yn cyfateb i nifer y papurau a ddosbarthwyd, fel y cofnodir ar gyfrifon papurau pleidleisio'r Swyddogion Llywyddu.
Dangosir y papurau pleidleisio a ddilyswyd i'r asiantiaid etholiad a'r asiantiaid cyfrif yn wynebu i fyny
Bydd y Swyddog Canlyniadau Lleol yn pennu'r rhesymau dros unrhyw anghysondebau ac yn llunio cyfanswm terfynol wedi ei ddilysu
Bydd y Swyddog Canlyniadau Lleol yn llunio datganiad o'r broses ddilysu. Gall asiantiaid weld neu gopïo'r datganiad hwn os dymunant.
Os bydd yr etholiad wedi cael ei gyfuno â digwyddiad etholiadol arall, caiff pob blwch pleidleisio ei ddilysu cyn i unrhyw ganlyniadau gael eu datgan.
Gall un blwch pleidleisio gael ei ddefnyddio ar gyfer pob etholiad neu gall blychau pleidleisio gwahanol gael eu defnyddio ar gyfer etholiadau gwahanol a ymleddir. Sut bynnag, caiff papurau pleidleisio eu rhannu yn etholiadau gwahanol a ymleddir.
Bydd unrhyw bapur pleidleisio a ganfyddir yn y blwch pleidleisio 'anghywir' yn ddilys o hyd a chaiff ei symud i'r blwch cywir yn ystod y broses ddilysu.
Os nad yw'r cyfrif yn digwydd yn union wedi'r dilysu, caiff y blychau wedi'u dilysu eu storio'n ddiogel. Gall ymgeiswyr ac asiantiaid atodi eu seliau i'r blychau os dymunant.
Cam 3 – Cyfrif y pleidleisiau
Bydd staff yn didoli'r papurau pleidleisio fesul ymgeisydd ac yn cyfrif nifer y pleidleisiau a fwriwyd ar gyfer pob ymgeisydd.
Yna caiff y cyfansymiau lleol eu trosglwyddo i Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu er mwyn cyfrifo'r canlyniad.