Pwy a all fod yn bresennol yn ystod y broses cyfrif a dilysu?
Mae gennych chi a'ch asiant etholiad yr hawl i fod yn bresennol yn y sesiynau dilysu a chyfrif ar gyfer unrhyw un o'r ardaloedd pleidleisio yn ardal yr heddlu.1
Mae gennych chi a'ch asiant etholiad yr hawl hefyd i fod yn bresennol yn ystod y broses o gyfrifo'r canlyniad ar gyfer ardal yr heddlu.2
Hefyd, gallwch wahodd un unigolyn arall i fod yn bresennol yn y gweithrediadau hyn, a gallwch hefyd benodi asiantiaid yn benodol i fod yn bresennol yn y gweithrediadau hyn ar eich rhan.3
Mae gan is-asiant yr hawl i fod yn bresennol yn lle asiant etholiad, ond dim ond os yw'r gweithrediadau yn ymwneud â'r ardal y cafodd ei benodi i weithredu ynddi.4
Dylech sicrhau eich bod chi a'ch holl fynychwyr yn cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan y Swyddog Canlyniadau Lleol neu Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu.