Pan fydd holl gyfansymiau'r cyfrif o'r ardaloedd pleidleisio wedi cael eu hadio at ei gilydd gan Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu, bydd yn datgan ac yn cyhoeddi'r canlyniad.
Bydd rhai Swyddogion Canlyniadau yn caniatáu i ymgeiswyr annerch ar ôl i'r canlyniad gael ei ddatgan. Cadarnhewch y trefniadau gyda Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu. Dylech sicrhau eich bod chi a’ch cefnogwyr yn cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu ynghylch y safonau ymddygiad sy’n ofynnol yn ystod cyhoeddiadau llafar.
Ceir manylion yr hyn a fydd yn digwydd ar ôl i'r canlyniad gael ei gyhoeddi yn Ar ôl yr etholiad.