Canllawiau ar gyfer ymgeiswyr ac asiantiaid yn etholiad Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu
Pwy all bleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio?
Bydd y rhan fwyaf o bobl yn dewis pleidleisio yn bersonol yn eu gorsaf bleidleisio hwy. Gall unrhyw un sydd ar gofrestr etholiadol yr orsaf bleidleisio fynd ati i bleidleisio mewn etholiad ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn yr orsaf bleidleisio, oni bai:
- ei fod yn bleidleisiwr post cofrestredig
- ei fod yn bleidleisiwr drwy ddirprwy cofrestredig a bod ei ddirprwy eisoes wedi pleidleisio ar ei ran neu wedi gwneud cais i bleidleisio ar ei ran
- nad yw'n 18 mlwydd oed neu hŷn ar y diwrnod pleidleisio
- ei fod yn gofrestredig fel un o arglwyddi'r deyrnas dramor neu'n etholwr dramor
Bydd etholwyr yn cael cerdyn pleidleisio cyn yr etholiad yn dweud wrthynt ble a phryd y gallant bleidleisio. Nid oes angen i etholwyr fynd â'u cerdyn pleidleisio gyda nhw i'r orsaf bleidleisio er mwyn pleidleisio, oni fyddant wedi cofrestru'n ddienw oherwydd risg i'w diogelwch.
Gofynion o ran prawf adnabod ffotograffig
Bydd yn ofynnol i etholwyr sy'n pleidleisio mewn gorsaf bleidleisio ddangos prawf adnabod ffotograffig cyn cael papur pleidleisio. Mae'r mathau o brawf adnabod ffotograffig a dderbynnir fel a ganlyn:1
- pasbort a roddwyd gan y DU, unrhyw un o Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw, Tiriogaeth Dramor Brydeinig, gwladwriaeth AEE, neu un o wledydd y Gymanwlad (gan gynnwys Cerdyn Pasbort Iwerddon)
- Trwydded yrru a gyflwynwyd gan y DU, unrhyw un o Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw, neu wladwriaeth AEE
- dogfen mewnfudo fiometrig2
- Cerdyn adnabod sydd â hologram y Cynllun Safonau Prawf Oedran (cerdyn PASS)
- Ffurflen 90 y Weinyddiaeth Amddiffyn (Cerdyn Adnabod Amddiffyn)
- Bathodyn Glas
- Cerdyn adnabod cenedlaethol a gyflwynwyd gan wladwriaeth AEE
- Pàs Bws Person Hŷn a ariennir gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig
- Pàs Bws Person Anabl a ariennir gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig
- Cerdyn Oyster 60+ a ariennir gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig
- Pàs Freedom
- Cerdyn Hawl Cenedlaethol a gyflwynir yn yr Alban
- Cerdyn Teithio Rhatach i bobl 60 oed a throsodd a gyflwynir yng Nghymru
- Cerdyn Teithio Rhatach i bobl anabl a gyflwynir yng Nghymru
- SmartPass i Bobl Hŷn a gyflwynir yng Ngogledd Iwerddon
- SmartPass i bobl sydd wedi'u cofrestru'n ddall neu SmartPass i bobl ddall a gyflwynir yng Ngogledd Iwerddon
- SmartPass Anabledd Rhyfel a gyflwynir yng Ngogledd Iwerddon
- SmartPass 60+ a gyflwynir yng Ngogledd Iwerddon
- SmartPass Hanner Pris a gyflwynir yng Ngogledd Iwerddon
- Cerdyn Adnabod Etholiadol a gyflwynir yng Ngogledd Iwerddon
Gellir defnyddio dogfennau adnabod ffotograffig sydd wedi dod i ben fel prawf adnabod ffotograffig a dderbynnir yn yr orsaf bleidleisio o hyd, cyhyd â bod y llun yn dal i fod yn ddigon tebyg i'r etholwr.
Os na fydd gan etholwr un o'r mathau o brawf adnabod ffotograffig a dderbynnir, gall wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr mewn sawl ffordd:
- ar-lein yn www.gov.uk/ceisio-am-lun-id-tystysgrif-awdurdod-pleidleiswyr
- yn ysgrifenedig ar ffurflen gais bapur
- yn bersonol, os yw'r Swyddog Cofrestru Etholiadol yn cynnig y gwasanaeth hwn yn ei swyddfa
Bydd yn ofynnol i etholwyr dienw sy'n dymuno pleidleisio'n bersonol wneud cais am Ddogfen Etholwr Dienw. Dim ond yn ysgrifenedig y gellir gwneud cais am ddogfen Etholwr Dienw, gan ddefnyddio ffurflen gais bapur. Bydd eich Swyddog Cofrestru Etholiadol lleol yn gallu rhoi'r ffurflen hon i etholwyr ar gais. Yna gall yr etholwr ddychwelyd y ffurflen gais i'r Swyddog Cofrestru Etholiadol drwy'r post, yn bersonol neu drwy e-bostio copi wedi'i sganio.
Ni ddylai ymgeiswyr ac asiantiaid drin ceisiadau wedi'u cwblhau am Dystysgrifau Awdurdod Pleidleisiwr na Dogfennau Etholwyr Dienw. Ceir rhagor o wybodaeth yn ein cod ymddygiad ar gyfer ymgyrchwyr ym Mhrydain Fawr
Dychwelyd pecynnau pleidleisio drwy'r post
Ni ellir rhoi papur pleidleisio i bleidleiswyr post cofrestredig yn yr orsaf bleidleisio, ond gallant ddychwelyd eu pecyn pleidleisio drwy'r post wedi'i gwblhau i'w gorsaf bleidleisio ar y diwrnod pleidleisio. Fel arall, yn Lloegr, gallant ddychwelyd eu pleidlais bost i rai gorsafoedd pleidleisio eraill yn yr ardal awdurdod lleol (bydd y swyddfa etholiadau yn gallu rhoi manylion iddynt). Yng Nghymru, gallant ddychwelyd eu pleidlais bost i rai gorsafoedd pleidleisio eraill yn yr etholaeth (bydd y swyddfa etholiadau yn gallu rhoi manylion iddynt). Ym mhob achos, gellir dychwelyd pecynnau pleidleisio drwy'r post hefyd â llaw i'r Swyddog Canlyniadau Lleol yn y swyddfa etholiadau.
Os yw'r Swyddog Canlyniadau Lleol wedi anfon pecynnau pleidleisio drwy'r post ar gyfer mwy nag un etholiad ar yr un diwrnod, byddant yn rhoi gwybodaeth i'r etholwyr i esbonio i ble y gallant ddychwelyd eu pecynnau pleidleisio drwy'r post.
Rhaid i becynnau pleidleisio drwy'r post a ddychwelir i orsafoedd pleidleisio gael eu rhoi i staff gorsafoedd pleidleisio ac nid yn y blwch pleidleisio.
Cyfyngiadau i'r broses trin ceisiadau post
Mae'n drosedd i ymgyrchydd gwleidyddol drin papurau pleidleisio wedi'u cwblhau neu becynnau pleidleisio drwy'r post ar gyfer pleidleiswyr nad ydynt yn aelodau agos o'r teulu neu'n rhywun y maent yn gofalu amdanynt.
Mae hefyd yn nodi terfyn ar gyfer nifer y pleidleisiau post y gellir eu cyflwyno mewn gorsaf bleidleisio neu eu cyflwyno i'r Swyddog Canlyniadau ac yn cyflwyno gofyniad i gwblhau ffurflen wrth wneud hynny.
Gall person gyflwyno pleidleisiau post ar ran pum etholwr arall ynghyd â'i bleidlais ei hun.
Bydd yn ofynnol i berson sy'n cyflwyno pleidlais bost gwblhau ffurflen sy'n cynnwys gwybodaeth sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith.
Bydd methiant i gwblhau'r ffurflen yn arwain at wrthod y pleidleisiau post a gyflwynir mewn gorsaf bleidleisio neu a gyflwynir i'r Swyddog Canlyniadau.
- 1. Rheol 37, Atodlen 1, Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Mae eVisa yn ddogfen breswylio fiometrig ar ffurf ddigidol. Ar hyn o bryd ni ellir cyflwyno unrhyw fath arall o ID ffotograffig mewn fformat digidol. ↩ Back to content at footnote 2