Canllawiau ar gyfer ymgeiswyr ac asiantiaid yn etholiad Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu
Beth yw'r broses bleidleisio arferol?
Gellir crynhoi'r broses bleidleisio fel a ganlyn.
Bydd staff yr orsaf bleidleisio yn gwneud y canlynol:
- gofyn am enw a chyfeiriad y pleidleiswyr cyn gwneud yn siŵr eu bod yn gymwys i bleidleisio drwy gadarnhau yn erbyn y gofrestr o etholwyr
- gofyn i'r etholwr am ei brawf adnabod ffotograffig
- dilysu'r prawf adnabod ffotograffig
- marcio llinell syth yn erbyn cofnod y pleidleisiwr ar y gofrestr etholwyr
- galw allan enw a rhif etholwr yr etholwr
- ysgrifennu rhif etholwr ar restr (y Rhestr Rhifau Cyfatebol) wrth ymyl rhif y papur pleidleisio a roddir
- gwneud yn siŵr bod y papur pleidleisio yn cynnwys y marc swyddogol (e.e. cod bar neu ddyfrnod)
- plygu'r papur pleidleisio a'i roi i'r etholwr heb ei blygu fel y gall weld yr holl opsiynau ar y papur pleidleisio
Yna bydd yr etholwr yn gwneud y canlynol:
- mynd â'r papur pleidleisio i'r bwth pleidleisio
- marcio'r papur pleidleisio mewn preifatrwydd, oni fydd yn cael cymorth gan gydymaith neu'r Swyddog Llywyddu
- plygu'r papur pleidleisio wedi'i farcio ac yn dangos rhif y papur pleidleisio a'r marc adnabod unigryw ar gefn y papur pleidleisio i'r Swyddog Llywyddu
- rhoi'r papur pleidleisio yn y blwch pleidleisio ac yna'n gadael yr orsaf bleidleisio
Bydd yr orsaf bleidleisio'n cynnwys cyfleusterau ar gyfer unrhyw bleidleisiwr sydd am gael dilysu ei brawf adnabod yn breifat.
Os na fydd y pleidleisiwr wedi dod â phrawf adnabod neu os bydd wedi dod â math anghywir o brawf adnabod, bydd y pleidleisiwr yn gallu dychwelyd i'r orsaf bleidleisio gyda math derbyniol o brawf adnabod ffotograffig. Unwaith y bydd math derbyniol o brawf adnabod wedi'i ddangos, bydd y pleidleisiwr yn cael papur pleidleisio.
Os bydd yr etholiad wedi cael ei gyfuno â digwyddiad etholiadol arall, bydd staff gorsafoedd pleidleisio yn dosbarthu'r papurau pleidleisio ar gyfer pob digwyddiad etholiadol y mae'r pleidleisiwr yn gymwys i bleidleisio ynddo.
Weithiau, bydd hyn yn golygu, efallai na fydd etholwyr yn cael pob papur pleidleisio a roddir yn yr orsaf, oherwydd efallai nad oes hawl ganddynt i bleidleisio ym mhob digwyddiad etholiadol.
Mae'n bosibl y bydd gofynion etholfraint gwahanol ar gyfer digwyddiadau etholiadol gwahanol, felly weithiau ni fydd gan etholwr yr hawl i bleidleisio ym mhob un o'r etholiadau sy'n digwydd.
Os bydd etholiadau wedi cael eu cyfuno, gellir defnyddio blwch pleidleisio unigol ar gyfer pob un o'r etholiadau, neu gellir defnyddio un blwch pleidleisio ar gyfer pob etholiad ar wahân.
Hygyrchedd mewn gorsafoedd pleidleisio
Mae gan y Swyddog Canlyniadau Lleol gyfrifoldeb dros sicrhau bod y broses bleidleisio'n hygyrch. Rhaid iddo ddarparu i bob gorsaf bleidleisio amrywiaeth o gyfarpar y mae’n rhesymol ei ddarparu at ddibenion galluogi pleidleiswyr anabl i bleidleisio’n annibynnol ac yn gyfrinachol, neu ei gwneud yn haws iddynt wneud hyn.
Gall y Swyddog Llywyddu helpu unrhyw un na all farcio'r papur pleidleisio ei hun.1 Fel arall, gall pleidleisiwr ddod â rhywun gydag ef y mae'n ei adnabod ac yn ymddiried ynddo i'w helpu i farcio ei bleidlais.2 Rhaid i'r sawl sy'n helpu'r pleidleisiwr fod yn 18 oed neu drosodd a dim ond hyd at ddau bleidleisiwr y gall eu helpu yn yr etholiad.
Rhaid i unrhyw berson sy'n mynd i'r orsaf bleidleisio i helpu etholwr gwblhau datganiad i'r Swyddog Llywyddu cyn iddo helpu'r etholwr yn y bwth pleidleisio.
- 1. Para 40, Atodlen 3, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Paragraff 41, Atodlen 3, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 2