Canllawiau ar gyfer ymgeiswyr ac asiantiaid yn etholiad Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu
Penodi asiantiaid pleidleisio
Gellir penodi unrhyw un i fod yn asiant pleidleisio, ar yr amod nad yw'n:
- Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu, Swyddog Canlyniadau Lleol neu aelod o'u staff (gan gynnwys unrhyw glercod a benodwyd yn arbennig ar gyfer yr etholiad)1
- dirprwy neu glerc Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu, Swyddog Canlyniadau Lleol, neu aelod o'u staff2
- swyddog awdurdod lleol y mae Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu neu Swyddog Canlyniadau Lleol yn defnyddio ei wasanaethau3
- partner neu glerc unrhyw un o'r uchod4
- unrhyw sydd heb hawl i bleidleisio yn yr etholiad o ganlyniad i adroddiad llys etholiadol neu gollfarn am arfer llwgr neu anghyfreithlon yn unol â Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 19835
- unrhyw un a gollfarnwyd a adroddwyd am arfer llwgr neu anghyfreithlon o dan Orchymyn 20126
Gallwch chi a'ch asiant etholiad hefyd weithredu fel un o'r asiantiaid hynny heb fod angen eich penodi'n swyddogol. Caiff is-asiantiaid hefyd fod yn bresennol yn ystod y bleidlais, ond dim ond yn lle'r asiant etholiad.
Ni ellir penodi mwy na phedwar asiant i unrhyw orsaf bleidleisio benodol, oni fydd y Swyddog Canlyniadau Lleol yn caniatáu mwy na hynny.7 Os penodir mwy na phedwar, bydd y Swyddog Canlyniadau Lleol yn penderfynu pwy a gaiff fod yn bresennol.8 Dim ond un asiant pleidleisio fesul ymgeisydd a gaiff fod yn bresennol mewn gorsaf bleidleisio ar y tro, ond gellir penodi asiant pleidleisio i fod yn bresennol mewn mwy nag un orsaf bleidleisio. Ni fydd hyn yn effeithio ar eich hawl chi, hawl eich asiant etholiad na hawl is-asiantiaid i fod yn bresennol.
Rhaid i asiantiaid pleidleisio gael eu penodi heb fod yn hwyrach na'r pumed diwrnod gwaith cyn yr etholiad.9 Rhaid i'r cais i benodi asiantiaid pleidleisio gael ei wneud yn ysgrifenedig i'r Swyddog Canlyniadau Lleol perthnasol gennych chi neu eich asiant. Rhaid iddo gynnwys enwau a chyfeiriadau'r bobl a benodir.10 Bydd y Swyddog Canlyniadau Lleol yn darparu ffurflenni ar gyfer hyn, neu gallwch ddefnyddio ffurflen benodi'r asiant pleidleisio.
Os bydd asiant yn marw neu'n methu â gweithredu, cewch benodi asiant arall yn ei le drwy gyflwyno'r ffurflen penodiad berthnasol i'r Swyddog Canlyniadau Lleol perthnasol. Rhaid i unrhyw benodiad newydd o dan yr amgylchiadau hyn gael ei wneud yn ddi-oed.11
- 1. Erthygl 59, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Erthygl 59, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Erthygl 59, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Erthygl 59, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Erthygl 59, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Erthygl 59, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Para 31(4), Atodlen 3, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 7
- 8. Para 31(4) a (5), Atodlen 3, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 8
- 9. Para 31(7), Atodlen 3, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 9
- 10. Para 33(2), Atodlen 2 a Phara 31(9), Atodlen 3, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 10
- 11. Para33(5), Atodlen 2 a Phara 31(8), Atodlen 3, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 11