Pryd y bydd rhywun yn dod yn ymgeisydd yn swyddogol?
Y dyddiad cynharaf y gallwch ddod yn ymgeisydd yn swyddogol yw'r diwrnod olaf ar gyfer cyhoeddi hysbysiad etholiad sef 25 diwrnod gwaith cyn yr etholiad.
Byddwch yn dod yn ymgeisydd yn swyddogol ar y diwrnod hwn os byddwch eisoes wedi datgan eich bod yn ymgeisydd yn yr etholiad (neu os bydd rhywun arall wedi datgan eich bod yn ymgeisydd) ar neu cyn y dyddiad hwn.
Os byddwch chi neu eraill yn datgan y byddwch yn ymgeisydd yn yr etholiad ar ôl y dyddiad hwn, byddwch yn dod yn ymgeisydd ar y dyddiad y gwneir y cyfryw ddatganiad, neu ar y dyddiad y cyflwynwch eich papurau enwebu, p'un bynnag fydd gyntaf.
Y diwrnod ar ôl i chi ddod yn ymgeisydd yn swyddogol, bydd rheolau ynghylch gwariant a rhoddion yn dod yn gymwys.
Pan fyddwch wedi dod yn ymgeisydd yn swyddogol, cewch gopi o'r gofrestr etholiadol.
Cewch hefyd gopi o'r rhestrau o bleidleiswyr absennol ar gyfer ardal gyfan yr heddlu.
Hefyd, gallwch ddefnyddio ystafelloedd a ariennir gan gyllid cyhoeddus ac ysgolion ar gyfer cyfarfodydd cyhoeddus.
Gallwch ddechrau ymgyrchu cyn i chi ddod yn ymgeisydd yn swyddogol. Ceir rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau ar ymgyrchu.