Yr asiant etholiad yw'r person sy'n gyfrifol am reoli eich ymgyrch etholiadol yn briodol ac, yn arbennig, am ei rheolaeth ariannol. Rhaid i chi benodi asiant etholiad. Os na fyddwch yn gwneud hynny, chi fydd yn cyflawni'r rôl honno.1
Yn dilyn y penodiad, dim ond gan neu drwy'r asiant etholiad y gellir talu treuliau etholiad.2
Ceir rhagor o wybodaeth am wariant ymgeisydd yn gwariant ymgeiswyr.
Gallwch hefyd benodi asiantiaid eraill i arsylwi ar y prosesau etholiadol canlynol, y mae gennych chi a'ch asiant etholiad yr hawl i arsylwi arnynt hefyd: 3
agor pleidleisiau post
y bleidlais
dilysu a chyfrif pleidleisiau
Hefyd, bydd hawl gennych chi, eich asiant etholiad ac un person arall a benodir gennych chi i fod yn bresennol pan fydd Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu yn cyfrifo'r canlyniad.