Canllawiau ar gyfer ymgeiswyr ac asiantiaid yn etholiad Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu

Pwy sy'n gwneud beth mewn etholiad ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu a sut gallwch gysylltu â nhw

Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu 

Mae gan bob ardal yr heddlu Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu sydd â chyfrifoldeb cyffredinol am ethol Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn yr ardal honno. Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu yw'r Swyddog Canlyniadau Dros Dro ar gyfer etholaeth Seneddol benodedig yn y DU sy'n syrthio'n gyfan gwbl neu'n rhannol o fewn ardal yr heddlu. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu ei fod yn uwch-swyddog un o'r awdurdodau lleol yn ardal yr heddlu fel arfer ac yn annibynnol ar yr awdurdod mewn perthynas â'i swyddogaethau etholiadol.

Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu sy'n gyfrifol am y broses enwebu ac am gyfrifo a datgan canlyniad yr etholiad. Bydd Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu yn cysylltu â Swyddogion Canlyniadau Lleol ac yn cyd-drefnu eu gwaith yn eu hardal heddlu nhw, ac mae ganddo'r pŵer hefyd i roi cyfarwyddiadau i Swyddogion Canlyniadau Lleol o ran cyflawni eu swyddogaethau yn yr etholiad.

Bydd Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu yn cynnig briffiadau cyn yr etholiad ac rydym yn eich annog chi neu eich asiant i'w mynychu, hyd yn oed os ydych wedi bod yn asiant neu wedi sefyll etholiad o'r blaen. 

Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu fydd y Swyddog Canlyniadau Lleol hefyd ar gyfer yr ardal awdurdod lleol unigol y mae'n ei chynrychioli.

Gallwch gysylltu â ni i ddysgu pwy yw Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu ar gyfer pob ardal. Bydd Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu hefyd yn gallu rhoi manylion cyswllt ar gyfer Swyddogion Canlyniadau Lleol.
 

Y Swyddog Canlyniadau Lleol

Y Swyddog Canlyniadau Lleol 

Swyddogion Canlyniadau Lleol sy'n gyfrifol am redeg etholiad ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu ar lefel leol. Maent yn gyfrifol am weinyddu'r modd y cynhelir yr etholiad, cyhoeddi ac agor papurau pleidleisio drwy'r post a chyfrif y pleidleisiau ar gyfer eu hardal bleidleisio nhw.

Y Swyddog Canlyniadau Lleol mewn etholiad ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yw'r unigolyn sy'n gweithredu fel Swyddog Canlyniadau mewn etholiadau lleol yn yr ardal honno ac fel arfer mae'n uwch-swyddog yn yr awdurdod lleol ac yn annibynnol ar yr awdurdod o ran ei swyddogaethau etholiadol. 

Gall rhai Swyddogion Canlyniadau Lleol gynnig briffiadau hefyd ar drefniadau lleol ar gyfer y bleidlais.

Byddwch yn gallu cysylltu â'r Swyddog Canlyniadau Lleol dros unrhyw ardal awdurdod lleol drwy gysylltu â swyddfa etholiadau'r awdurdod lleol perthnasol. Ceir cyfeiriadau a rhifau ffôn pob swyddfa etholiad ar ein gwefan www.electoralcommission.org.uk/cy/rwyf-yneg-pleidleisiwr/pleidleisiwr
 

Y Swyddog Cofrestru Etholiadol

Y Swyddog Cofrestru Etholiadol

Y Swyddog Cofrestru Etholiadol sy'n gyfrifol am gynnal y gofrestr etholwyr a rhestrau pleidleiswyr absennol ar gyfer ei ardal awdurdod lleol. Y Swyddog Cofrestru Etholiadol yw un o'r uwch swyddogion yn yr awdurdod lleol fel arfer a gall hefyd gyflawni rôl y Swyddog Canlyniadau. Ceir manylion cyswllt yr holl Swyddogion Cofrestru Etholiadol yn www.electoralcommission.org.uk/cy/rwyf-yneg-pleidleisiwr/pleidleisiwr
 

Y Comisiwn Etholiadol

Y Comisiwn Etholiadol

Rydym yn gorff statudol annibynnol a sefydlwyd ym mis Tachwedd 2000 gan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000. Cawn ein harwain ar hyn o bryd gan ddeg Comisiynydd, gan gynnwys Cadeirydd. Rydym yn uniongyrchol atebol i Senedd y DU drwy bwyllgor a gadeirir gan Lefarydd Tŷ'r Cyffredin. 

Rydym yn gyfrifol am gofrestru pleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau, monitro a chyhoeddi rhoddion sylweddol i bleidiau gwleidyddol cofrestredig a rheoleiddio gwariant ymgyrchwyr plaid a rhai nad ydynt yn bleidiau mewn etholiadau penodol. Mae gennym rôl i'w chwarae hefyd wrth hyrwyddo ymwybyddiaeth ymhlith pleidleiswyr. Mae'n ofynnol i ni adrodd ar weinyddiaeth rhai digwyddiadau etholiadol penodol, gan gynnwys etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu, arolygu materion etholiadol yn rheolaidd ac, os gofynnir am hynny, adolygu ac adrodd ar unrhyw fater etholiadol. Rydym hefyd yn achredu arsylwyr i fod yn bresennol yn ystod gweithrediadau etholiadau.

Nid ydym yn cynnal etholiadau ond rydym yn gyfrifol am roi cyngor a chymorth ar faterion etholiadol i bawb sy'n gysylltiedig ag etholiadau, gan gynnwys Swyddogion Canlyniadau Ardal yr Heddlu, Swyddogion Canlyniadau Lleol, Swyddogion Cofrestru Etholiadol, pleidiau gwleidyddol ac ymgeiswyr.

Rydym yma i helpu, felly cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 29 Tachwedd 2023