Pwy sy'n gyfrifol am wariant ymgeisydd a rhoddion?
Rhaid i ymgeiswyr a'u hasiantiaid mewn etholiad ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddul ddilyn rheolau penodol ynghylch faint y gallant ei wario, gan bwy y gallant dderbyn rhoddion a beth y mae'n rhaid iddynt roi gwybod amdano ar ôl yr etholiad.
Yr asiant etholiad sy'n bennaf cyfrifol am gydymffurfio â'r rheolau hyn, hyd yn oed os yw'n penodi is-asiant i'ch helpu gyda'ch treuliau.
Fodd bynnag, ar ôl yr etholiad, rhaid i'r ymgeisydd a'r asiant lofnodi datganiadau yn dweud bod eu ffurflen gwariant a rhoddion yn gyflawn ac yn gywir hyd eithaf eu gwybodaeth.
Mae hyn yn golygu bod angen hefyd i ymgeiswyr fod yn gwbl ymwybodol o'r rheolau a sicrhau bod eu hasiant yn eu dilyn.
Gwariant
Mae'r rheolau yn gymwys i wariant ar weithgareddau i hyrwyddo'ch ymgeisyddiaeth, neu feirniadu ymgeiswyr eraill, yn ystod cyfnod penodol cyn yr etholiad. Gelwir y cyfnod hwn yn ‘gyfnod a reoleiddir’. Pan ddefnyddiwn y term ‘cyfnod a reoleiddir’ rydym yn golygu'r adeg pan fydd terfynau gwariant a rheolau yn gymwys.
Eich cyfrifoldeb chi yw rhoi gwybodaeth lawn a chywir am wariant ymgeisydd. Dylech sicrhau eich bod yn deall y rheolau a bod pob gwariant wedi'i awdurdodi a'i gofnodi ac y rhoddir gwybod amdano'n gywir.
Mae gwariant ymgeiswyr yn cynnwys unrhyw dreuliau yr eir iddynt, p'un a yw hynny ar nwyddau, gwasanaethau, eiddo neu gyfleusterau, at ddibenion etholiad yr ymgeisydd yn ystod y cyfnod a reoleiddir.
Ystyr ‘mynd i wariant’ neu ‘fynd i gostau’ yw gwneud ymrwymiad cyfreithiol i wario arian, fel cadarnhau archeb.
Mae hyn yn cynnwys:
eitemau neu wasanaethau a brynwyd cyn i'r cyfnod a reoleiddir ddechrau, ond a ddefnyddiwyd yn ystod y cyfnod hwnnw
gwerth eitemau neu wasanaethau a roddwyd i chi am ddim neu am ostyngiad anfasnachol o fwy na 10%, sef ‘gwariant tybiannol’
Ceir rheolau sy'n cwmpasu:
pwy all awdurdodi gwariant a thalu am eitemau a gwasanaethau
faint y gallwch ei wario
pa weithgareddau sy'n cyfrif tuag at eich terfyn gwariant
terfynau amser ar gyfer derbyn a thalu anfonebau
pa gofnodion y mae'n rhaid i chi eu cadw
sut a phryd rydych yn rhoi gwybod am eich gwariant
Gelwir gwariant ymgeiswyr yn ‘dreuliau’ yn aml. Weithiau, mae pobl yn meddwl bod hyn yn golygu y gall gwariant gael ei ad-dalu gan y cyngor lleol, neu gennym ni, y Comisiwn Etholiadol. Nid felly y mae. Nid oes gennych hawl i adennill unrhyw wariant o arian cyhoeddus. Ceir rhagor o wybodaeth am roi gwybod am wariant ymgeisydd ar ôl yr etholiad yn Gwariant ymgeiswyr
Rhoddion
Dim ond rhoddion o arian, eitemau neu wasanaethau tuag at eu gwariant ar ymgyrch gan ffynonellau penodol a leolir yn y DU yn bennaf y gall ymgeiswyr eu derbyn, a rhaid iddynt roi gwybod amdanynt i'r swyddog canlyniadau lleol ar ôl yr etholiad.
Mae hyn yn cynnwys rhoddion gan eich plaid leol.
Os penodir asiant etholiad, rhaid i roddion gael eu trosglwyddo iddo mor gyflym â phosibl. Yna rhaid i'r asiant gadarnhau a ellir derbyn y rhodd ai peidio.
Rhaid i'r ymgeisydd a'r asiant lofnodi datganiad ar eu ffurflen treuliau yn dweud bod y ffurflen rhoddion yn gyflawn ac yn gywir hyd eithaf eu gwybodaeth. Felly mae angen i'r ymgeisydd sicrhau bod ei asiant yn dilyn y rheolau.
Os na phenodwyd asiant, yr ymgeisydd sy'n gyfrifol am drafod a gwirio rhoddion.
Ceir rhagor o wybodaeth am roi gwybod am roddion ar ôl yr etholiad yn Rhoddion ymgeiswyr