Canllawiau diogelu data i Swyddogion Cofrestru Etholiadol a Swyddogion Canlyniadau

Archwilio cofnodion y cyngor fel Swyddog Cofrestru Etholiadol

Fel Swyddog Cofrestru Etholiadol, bydd angen i chi ddangos bod yr holl wybodaeth a ddaw i law o archwilio cofnodion y cyngor, neu a ddatgelir gan eich cyngor yn cydymffurfio ag egwyddorion prosesu data personol, gan sicrhau eu bod yn cael eu prosesu mewn ffordd gyfreithlon, deg a thryloyw. Bydd cadw cofnodion yn eich helpu i ddangos eich bod yn cydymffurfio â'ch rhwymedigaethau o dan ddeddfwriaeth diogelu data a deddfwriaeth etholiadol.1  

Dylech gadw cofnod o'r canlynol:

  • y cofnodion i'w harchwilio
  • amserlen ar gyfer eu harchwilio
  • ar ba sail gyfreithlon rydych yn prosesu'r wybodaeth honno.2 Er enghraifft, eich rhwymedigaeth fel Swyddog Cofrestru Etholiadol i archwilio'r cofnodion hynny a gaiff eu harchwilio fel rhan o'ch dyletswydd i gynnal y gofrestr etholiadol  
  • mesurau i sicrhau bod gweithdrefnau diogelu priodol ar waith i ddiogelu'r data, er enghraifft: 
    • amgryptio data neu ddiogelu data â chyfrinair pryd bynnag y cânt eu trosglwyddo 
  • defnyddio dulliau storio diogel.
  • y camau rydych wedi eu cymryd ar sail y wybodaeth rydych wedi'i chael.
  • cadw a gwaredu data yn ddiogel yn unol â'ch cynllun cadw dogfennau

Dylech sicrhau eich bod yn cadw cofnodion o gofnodion y cyngor rydych yn eu harchwilio, a dylai cynnal cofnodion fod yn rhan glir o'ch cynllun cofrestru cyffredinol.

Ceir rhagor o ganllawiau ar archwilio cofnodion y cyngor3 yn ein canllawiau i Swyddogion Cofrestru Etholiadol

Diweddarwyd ddiwethaf: 20 Mawrth 2023