Canllawiau diogelu data i Swyddogion Cofrestru Etholiadol a Swyddogion Canlyniadau

Storio data

Fel rheolydd data, mae gennych ddyletswydd i ddiogelu yn erbyn prosesu anawdurdodedig neu anghyfreithlon ac yn erbyn colled ddamweiniol ac mae'n ofynnol bod gennych fesurau technegol a sefydliadol ar waith i sicrhau lefel o ddiogelwch, sy'n briodol i'r risg1

Rhaid i chi gadarnhau pa fesurau diogelu priodol sydd ar waith er mwyn diogelu data personol. Er enghraifft, sicrhau bod data personol yn cael eu hamgryptio pan gânt eu trosglwyddo, gan felly sicrhau eich bod yn gwarchod y data hynny. 

Bydd gan eich cyngor safonau a phrosesau corfforaethol ar gyfer trin a diogelu data. Bydd eich Swyddog Diogelu Data yn gallu eich cynghori ar y prosesau a ddefnyddir gennych wrth gyflawni eich dyletswyddau penodol fel Swyddog Canlyniadau a/neu Swyddog Cofrestru Etholiadol. Bydd hefyd yn gallu eich helpu i nodi unrhyw risgiau i ddiogelwch y data a ddelir gennych, boed hynny ar bapur neu'n electronig ar eich systemau. 

Dylech sicrhau bod gennych brosesau ar waith i adfer data a'u dinistrio'n ddiogel ar yr adeg briodol, yn unol â'ch polisi cadw dogfennau.

Diweddarwyd ddiwethaf: 22 Chwefror 2023