Cyhoeddi'r amser a'r lleoliad ar gyfer archwilio ffurflenni gwariant a datganiadau ymgeiswyr
O fewn 10 diwrnod i'r dyddiad cau i ymgeiswyr gyflwyno eu ffurflenni gwariant i chi, rhaid i chi gyhoeddi, mewn o leiaf ddau bapur newydd sy'n cael ei ddosbarthu yn ardal yr heddlu, hysbysiad o'r amser a'r lleoliad lle y gellir archwilio'r ffurflenni, y datganiadau a'r dogfennau ategol. Rhaid i chi hefyd anfon copi o'r hysbysiad hwn at bob asiant etholiad1
.
Os nad ydych wedi cael un o'r ffurflenni neu'r datganiadau gofynnol rhaid i chi nodi hyn yn yr hysbysiad. Os byddwch yn derbyn ffurflen neu ddatganiad yn dilyn hyn, rhaid i chi, o fewn deg diwrnod i'w (d)derbyn, gyhoeddi hysbysiad (yn yr un ffordd â'r hysbysiad cyntaf) o'r amser a'r lleoliad y gellir archwilio'r ffurflen, y datganiad a'r dogfennau ategol, ac anfon copi o'r hysbysiad hwn at yr holl asiantiaid.