| Argraffu'r canllawiau llawn

Gwybodaeth i etholwyr

Er mwyn cyfleu gwybodaeth i etholwyr yn effeithiol dylech ystyried pwy rydych am ei gyrraedd drwy'ch gweithgarwch codi ymwybyddiaeth a'r dull cyfathrebu i'w ddefnyddio. Dylech ofyn am gyngor staff perthnasol yn eich awdurdod lleol a cheisio eu barn. Dylech hefyd ystyried unrhyw ymgyrch gofrestru genedlaethol a gynhelir gan y Comisiwn Etholiadol a cheisio cydgysylltu gweithgarwch yn eich ardal â'r gweithgarwch cenedlaethol fel y bo'n briodol. 

Gall gwybodaeth sydd ei hangen ar etholwyr er mwyn cymryd rhan yn llwyddiannus gynnwys y canlynol: 

  • manylion yr etholiad(au) 
  • y dyddiad ac oriau pleidleisio 
  • lleoliad gorsafoedd pleidleisio 
  • unrhyw ddyddiadau cau allweddol (e.e. dyddiadau cau ar gyfer gwneud cais i gofrestru i bleidleisio, gwneud cais am bleidleisiau post neu bleidleisiau drwy ddirprwy a gwneud cais am dystysgrif awdurdod pleidleisiwr) 
  • pa ddull adnabod ffotograffig a dderbynnir yn yr orsaf bleidleisio
  • sut i farcio'r papur(au) pleidleisio
  • y cymorth sydd ar gael i etholwyr a sut i wneud cais am addasiadau rhesymol (e.e. cyfarpar sy'n galluogi pleidleiswyr anabl i bleidleisio'n annibynnol yn yr orsaf bleidleisio) a sut i wneud cais am wybodaeth mewn fformatau amgen (e.e. braille, hawdd ei ddarllen, print bras)
  • sut a phryd y caiff pleidleisiau eu cyfrif 
  • sut y caiff y canlyniad ei gyhoeddi  

Yn ystod y cyfnod cyn etholiadau a drefnwyd, mae'n bosibl y bydd y Comisiwn yn cynnal ymgyrch codi ymwybyddiaeth y cyhoedd er mwyn annog etholwyr i gofrestru. Bydd ymgyrch o'r fath fel arfer yn cynnwys hysbysebu yn y cyfryngau torfol, gan weithio gyda phartneriaid a chynnal gweithgareddau cysylltiadau cyhoeddus. Byddwn hefyd yn darparu adnoddau y gellir eu defnyddio'n lleol, fel posteri, baneri ar-lein, templedi o ddatganiadau i'r wasg a chynnwys i'w ddefnyddio yn y cyfryngau cymdeithasol. 

Byddwn yn rhoi gwybodaeth i chi am ein hymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth y cyhoedd drwy'r Bwletin Gweinyddu Etholiadol. Rydym hefyd yn cyhoeddi cylchlythyr cofrestru pleidleiswyr, Y Gofrestr, sy'n anelu at sicrhau bod timau cyfathrebu mewn cynghorau lleol yn ymwybodol o'r wybodaeth ddiweddaraf am ymgyrchoedd ac adnoddau. Gallwch chi a thîm cyfathrebu eich cyngor gofrestru i dderbyn y cylchlythyr gofrestru i dderbyn y cylchlythyr.

Dylech sicrhau bod yr holl ddeunydd cyfathrebu a anfonir yn cynnwys manylion cyswllt priodol fel y gall unrhyw un ymateb a chael rhagor o wybodaeth. Dylech ystyried y manylion cyswllt mwyaf perthnasol ym mhob achos, gan weithio gyda Swyddogion Canlyniadau Lleol a'u staff yn ôl yr angen.

Ceir rhagor o wybodaeth am Ymgysylltu â phleidleiswyr yn ein canllawiau i Swyddogion Canlyniadau, paratoi Deunyddiau i bleidleiswyr i Swyddogion Canlyniadau Ardal Heddlu a sicrhau ansawdd deunyddiau etholiad yn ein canllawiau i Swyddogion Canlyniadau Lleol. Efallai y bydd y cyhoedd yn gwneud ymholiadau hefyd a bydd angen i chi ystyried sut y gellir ymdrin ag ymholiadau o'r fath mewn ffordd gyson. Gallech, er enghraifft, ystyried datblygu ymatebion y cytunwyd arnynt i gwestiynau cyffredin i staff rheng flaen. Rydym wedi paratoi Cwestiynau Cyffredin i staff rheng flaen mewn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn unig ac mewn Etholiadau cyfun Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu a llywodraeth leol yn Lloegr y gallech eu defnyddio. 

 

Mae cwestiynau cyffredin ar gyfer staff rheng flaen mewn etholiad cyfun Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu a llywodraeth leol  yn cael eu diweddaru ar hyn o bryd i adlewyrchu newidiadau Deddf Etholiadau 2022.

Mae 'Ble mae fy ngorsaf pleidleisio?' yn gwestiwn cyffredin yn y cyfnod cyn y diwrnod pleidleisio ac ar y diwrnod pleidleisio ei hun. Mewn partneriaeth â Democracy Club, rydym yn darparu adnodd chwilio â chod post ar ein gwefan. Pan fydd pleidleiswyr yn nodi eu cod post, dangosir iddynt ble mae eu gorsaf bleidleisio, a phwy yw eu hymgeiswyr. Gallech gynnwys yr adnodd hwn ar eich gwefan eich hun, gan ddefnyddio'r teclyn, neu ychwanegu dolen i'n gwefan.

Er mwyn hwyluso hyn, mae angen i chi anfon y data ar orsafoedd pleidleisio ar gyfer eich ardal at Democracy Club. Os mai chi hefyd yw'r Swyddog Canlyniadau Lleol, unwaith y byddwch wedi pennu'ch gorsafoedd pleidleisio yn derfynol, gallwch allgludo'r data o'ch System Rheoli Etholiad a'u hanfon mewn e-bost i [email protected]. Mae cyfarwyddiadau manwl ar gael ar gyfer pob cyflenwr, os bydd eu hangen arnoch.

Byddwn hefyd yn cynnwys eich manylion cyswllt yn ein hadnodd chwilio â chod post. Os bydd eich manylion cyswllt yn newid, gofynnwn i chi roi gwybod i ni cyn gynted â phosibl fel y gallwn ddiweddaru ein cofnodion. 

Diweddarwyd ddiwethaf: 25 Ebrill 2024