Ceisiadau am yr anerchiadau etholiadol wedi'u hargraffu ac mewn fformatau eraill
Rhaid i chi anfon unrhyw gais a gewch am fersiwn wedi'i hargraffu o'r anerchiadau etholiadol i'r Gweinidog. Bydd y Gweinidog, drwy'r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn trefnu bod copi wedi'i argraffu a rhestr o'r ymgeiswyr a enwebwyd yn ddilys yn cael eu hanfon at y sawl a wnaeth y cais.1
Hefyd, gall y Gweinidog gymryd camau i sicrhau, cyn belled ag y bo'n ymarferol, bod yr anerchiadau etholiadol ar gael:
mewn fformatau eraill fel print bras, braille a thâp sain
yn swyddfeydd pob awdurdod lleol sy'n gyfan gwbl neu'n rhannol o fewn ardal yr heddlu
mewn llyfrgelloedd cyhoeddus yn ardal yr heddlu, ac
mewn safleoedd eraill y gall y cyhoedd gael mynediad atynt fel arfer o fewn ardal yr heddlu
Dylech gysylltu â Swyddogion Canlyniadau Lleol yn eich ardal a chytuno ar broses o wneud hyn gyda hwy.