Rhaid i chi wirio ei fod yn cydymffurfio â'r holl ofynion cyfreithiolgal ar gyfer anerchiad etholiadol2
Os nad yw'n bodloni'r gofynion cyfreithiol, rhaid i chi ei ddychwelyd at asiant yr ymgeisydd, gan wahodd yr asiant i wneud cywiriadau a'i ailgyflwyno erbyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno anerchiadau etholiadol
Os yw'n bodloni'r gofynion cyfreithiol, rhaid i chi ei anfon ymlaen at y Gweinidog, ynghyd â datganiad yn nodi eich bod yn fodlon bod yr anerchiad yn cydymffurfio â'r gofynion perthnasol Yn ymarferol, dylid gwneud hyn cyn gynted ag y bo'n ymarferol fel y gall y Gweinidog ei gyhoeddi ar y wefan ar ôl 4pm ar y pedwerydd diwrnod gwaith ar bymtheg cyn yr etholiad. Oni fydd amgylchiadau arbennig yn berthnasol, y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno anerchiad etholiadol i'r Gweinidog yw hanner nos ar y deunawfed diwrnod calendr cyn yr etholiad (os yw'r deunawfed diwrnod calendr ar ddydd Sul, caiff y dyddiad cau ei ymestyn i'r ail ddiwrnod calendr ar bymtheg cyn yr etholiad. Yna, bydd y Gweinidog yn dychwelyd copi o'r anerchiad atoch fel y bydd yn ymddangos ar y wefan. Rhaid i chi hefyd hysbysu'r ymgeisydd o'r dyddiad y cyflwynwyd yr anerchiad gennych ac unrhyw fân gywiriadau a wnaed.
Rhaid i chi anfon y fersiwn o'r anerchiad ar gyfer y wefan at asiant yr ymgeisydd, gan wahodd yr asiant i wneud unrhyw sylwadau a chywiriadau erbyn dyddiad cau pellach a bennir gennych chi.3
Os caiff unrhyw sylwadau a/neu gywiriadau eu derbyn cyn y dyddiad cau a bennwyd gennych, rhaid i chi sicrhau bod y newidiadau a ddarparwyd yn gyson â'r gofynion cyfreithiol ar gyfer anerchiadau. Yna, rhaid i chi ddychwelyd y copi o'r anerchiad etholiadol i'r Gweinidog cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl eich dyddiad cau.4
Mae'r ddeddfwriaeth yn darparu bod yn rhaid i'r Gweinidog gyhoeddi'r anerchiad etholiadol ar y wefan cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl 4pm ar y pedwerydd diwrnod gwaith ar bymtheg cyn yr etholiad5