Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau Lleol sy'n gweinyddu Etholiadau ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu

Pleidleisio drwy ddirprwy mewn argyfwng

Efallai y bydd etholwr yn sylweddoli na all fynd i'r orsaf bleidleisio ar ôl i'r dyddiad cau ar gyfer trefnu dirprwy arferol fynd heibio. Gall etholwr benodi dirprwy mewn argyfwng i bleidleisio ar ei ran yn yr orsaf bleidleisio o dan rai amgylchiadau:1

  • yn achos anabledd (p'un a yw'n gyflwr meddygol, salwch neu rywbeth arall) sy'n digwydd ar ôl y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau arferol i benodi dirprwy (h.y. 5pm ar y chweched diwrnod gwaith cyn y bleidlais)
  • os yw'r unigolyn yn glaf iechyd meddwl a gadwyd o dan bwerau sifil (h.y. y rhai nad ydynt yn droseddwyr a gadwyd yn gaeth)
  • os yw ei alwedigaeth, ei wasanaeth neu ei gyflogaeth yn golygu na all fynd i'r orsaf bleidleisio ei hun, ar yr amod ei fod ond yn dod yn ymwybodol o hyn ar ôl y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau arferol am ddirprwy (h.y. 5pm ar y chweched diwrnod gwaith cyn y bleidlais. Ceir rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau i Swyddogion Cofrestru Etholiadol yng Nghymru a Lloegr

Gall etholwyr wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy mewn argyfwng ar ôl i'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau arferol am ddirprwy fynd heibio (h.y. ar ôl 5pm ar y chweched diwrnod gwaith cyn yr etholiad) hyd at 5pm ar y diwrnod pleidleisio. Os nad chi yw'r Swyddog Cofrestru Etholiadol hefyd, dylech gytuno ag ef ar ddull o gyfleu unrhyw ychwanegiadau at y rhestr dirprwyon sy'n deillio o ganiatáu ceisiadau am bleidlais drwy ddirprwy mewn argyfwng.

Nid yw'n ofynnol i rywun a benodir yn ddirprwy mewn argyfwng ddarparu unrhyw ddogfennaeth er mwyn cael caniatâd i bleidleisio yn yr orsaf bleidleisio. Pryd bynnag y caiff dirprwy mewn argyfwng ei benodi, dylech hysbysu staff yr orsaf bleidleisio briodol cyn gynted â phosibl ar ôl i'r dirprwy gael ei benodi, drwy unrhyw ffordd bosibl. 

Lle bynnag y bo modd, fodd bynnag, dylai'r Swyddog Cofrestru Etholiadol roi llythyr i ddirprwy unrhyw bleidleisiwr y derbyniwyd ei gais yn ei awdurdodi i weithredu fel dirprwy, a ddylai gynnwys manylion yr unigolyn y mae'n pleidleisio ar ei ran. Dylai'r Swyddog Cofrestru Etholiadol gynghori'r dirprwy i fynd â'r llythyr awdurdodi hwnnw gydag ef pan fydd yn mynd i bleidleisio a'i roi i'r staff yn yr orsaf bleidleisio. Os darperir llythyr o'r fath yn yr orsaf bleidleisio, dylai staff yr orsaf bleidleisio ei farcio er mwyn dangos bod y dirprwy wedi cael papur pleidleisio a dylid cadw'r llythyr wedi'i farcio gyda'r rhestr dirprwyon.   

Lle y bo'n bosibl, dylai'r Swyddog Cofrestru Etholiadol hefyd ddarparu rhestr atodol o ddirprwyon y gellir ei rhoi i'r orsaf bleidleisio berthnasol a'i hychwanegu at y rhestr a ddarparwyd yn wreiddiol.

Dylai pa ddull bynnag y cytunwyd arno i gyfleu ychwanegiadau at y rhestr dirprwyon ar y diwrnod pleidleisio gael ei egluro yn y sesiwn hyfforddi i staff gorsafoedd pleidleisio. Ceir rhagor o wybodaeth am hyfforddi staff gorsafoedd pleidleisio yn ein canllawiau ar staffio a hyfforddi.  

Dylech ofyn i arolygwyr gorsafoedd pleidleisio gydweithio â'r swyddfa gofrestru etholiadol o ran ceisiadau i benodi dirprwy mewn argyfwng a ganiateir ar y diwrnod pleidleisio a'u hysbysu am y gweithdrefnau i'w dilyn. Ceir rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau ar bleidleisiau drwy ddirprwy mewn argyfwng yng Nghymru neu Loegr.

Diweddarwyd ddiwethaf: 30 Mai 2023