Rhaid i bob ymgeisydd gael asiant etholiadol, a rhaid i Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu gael ei hysbysu am ei benodiad cyn y terfyn amser ar gyfer cyflwyno hysbysiadau tynnu enw yn ôl, sef 4pm ar y pedwerydd diwrnod gwaith ar bymtheg cyn yr etholiad.1
Pan gaiff ei hysbysu am enw a chyfeiriad asiant etholiad, rhaid i Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu gyhoeddi hysbysiad yn nodi'r manylion hynny ac enw'r ymgeisydd cyn gynted â phosibl.
Bydd Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu yn rhoi copi o'r hysbysiad i chi, fel Swyddog Canlyniadau Lleol, a rhaid i chi ei gyhoeddi yn eich ardal bleidleisio. 2
Rhaid i Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu ddiweddaru ac ailgyhoeddi'r hysbysiad os diddymir penodiad asiant, neu os bydd asiant yn marw. Pan fydd hyn yn digwydd, rhaid i Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu roi copi i chi o'r hysbysiad wedi'i ddiweddaru, a rhaid i chi ailgyhoeddi'r hysbysiad o asiantiaid etholiad yn eich ardal bleidleisio.