Gall asiantiaid etholiad benodi is-asiantiaid i weithredu ar eu rhan mewn unrhyw ran o ardal yr heddlu.
Rhaid hysbysu Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu am benodiad unrhyw is-asiant erbyn y pumed diwrnod gwaith cyn yr etholiad.1
Ar ôl cael hysbysiad o enw a chyfeiriad is-asiant, rhaid i Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu gyhoeddi hysbysiad yn nodi'r manylion hynny, enw'r ymgeisydd, a'r rhan o ardal yr heddlu y penodwyd yr is-asiant i weithredu ynddi, cyn gynted â phosibl.
Bydd Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu yn rhoi copi o'r hysbysiad i chi, fel Swyddog Canlyniadau Lleol, a rhaid i chi ei gyhoeddi yn eich ardal bleidleisio.
Rhaid i Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu ddiweddaru ac ailgyhoeddi'r hysbysiad os diddymir penodiad unrhyw is-asiant, neu os bydd asiant yn marw. Pan fydd hyn yn digwydd, rhaid i Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu roi copi i chi o'r hysbysiad wedi'i ddiweddaru, a rhaid i chi ailgyhoeddi'r hysbysiad o asiantiaid etholiad yn eich ardal bleidleisio.2