Asiantiaid Pleidleisio drwy'r Post, Pleidleisio a Chyfrif
Gall ymgeiswyr, neu eu hasiant etholiadol, benodi asiantiaid i arsylwi ar y broses o agor pleidleisiau post, y bleidlais a'r broses o ddilysu a chyfrif pleidleisiau.1
Chi sy'n gyfrifol am dderbyn hysbysiadau o benodiadau'r asiantiaid hyn a rhaid i chi sicrhau y caiff pob asiant penodedig gopi o'r gofynion perthnasol ynglŷn â chyfrinachedd ar gyfer agor pleidleisiau post, y bleidlais a'r cyfrif.2