Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau Lleol sy'n gweinyddu Etholiadau ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu

Dilysu

Mae dau brif ddiben i'r broses ddilysu, sef:

  • sicrhau a dangos bod yr holl bapurau pleidleisio a ddosbarthwyd mewn gorsafoedd pleidleisio a'r holl bapurau pleidleisio drwy'r post a ddychwelwyd wedi cael eu cludo i leoliad y cyfrif 
  • rhoi'r ffigur y dylai canlyniad y cyfrif fod yn gyson ag ef 

Dylech gofio am y ddau ddiben hyn wrth gynnal y broses ddilysu. 

Mae sicrhau cywirdeb ar y cam dilysu yn hollbwysig o ran sicrhau cyfrif amserol. Os bydd y ffigurau dilysu yn anghywir, bydd amrywiad o gymharu â ffigurau'r cyfrif y bydd angen ei ddatrys ac sy'n achosi'r risg y caiff y broses gyffredinol ei harafu'n sylweddol.  
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 30 Mai 2023