Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau Lleol sy'n gweinyddu Etholiadau ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu

| Argraffu'r canllawiau llawn

Bod yn bresennol yn y lleoliad dilysu a chyfrif

Fel Swyddog Canlyniadau Lleol, rydych yn gyfrifol am sicrhau y gall pawb sydd am arsylwi ar y prosesau dilysu a chyfrif wneud hynny'n ddiogel a chael gafael ar yr wybodaeth sydd ei hangen arnynt i'w galluogi i wneud hynny. 

Mae'r wybodaeth hon yn cynnwys gwybodaeth am bwy all fynychu'r prosesau dilysu a chyfrif, a chanllawiau ar gyfer eich cynlluniau i gyfathrebu drwy gydol y prosesau dilysu a chyfrif.

Diweddarwyd ddiwethaf: 9 Mai 2025