Torri dyletswydd swyddogol a'r pŵer i gywiro gwallau gweithdrefnol
Fel Swyddog Canlyniadau Lleol, rydych yn ddarostyngedig i ddarpariaethau tor-dyletswydd swyddogol. Mae hyn yn golygu os byddwch chi neu'ch dirprwyon penodedig yn euog o unrhyw weithred neu anweithred sy'n torri dyletswydd swyddogol, heb achos rhesymol, y byddwch chi (a/neu nhw) yn agored i dalu dirwy anghyfyngedig os cewch eich euogfarnu'n ddiannod.1
Mae gennych y pŵer i gymryd y cyfryw gamau ag sy'n briodol yn eich barn chi i unioni gweithredoedd neu anweithredoedd sy'n codi mewn cysylltiad ag unrhyw un o swyddogaethau'r refferendwm ac nad ydynt yn unol â'r rheolau.2
Mae'r pŵer hwn yn caniatáu i chi gywiro gwallau gweithdrefnol a wneir gennych chi, fel Swyddog Canlyniadau Lleol, Swyddog Cofrestru Etholiadol, Swyddog Llywyddu (neu ddirprwyon unrhyw un o'r rhain) neu unigolyn sy'n darparu nwyddau neu wasanaethau i chi/nhw.
Mae gwall gweithdrefnol yn cyfeirio at wall a wnaed yn ystod y broses o gynllunio neu gynnal yr etholiad, a all effeithio ar broses neu ganlyniad yr etholiad. Er enghraifft, cyhoeddi gwybodaeth anghywir ar gardiau pleidleisio neu bapurau pleidleisio, cyhoeddi papurau pleidleisio drwy'r post neu bapurau pleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio ar gam neu fethu â'u cyhoeddi pan y dylid bod wedi gwneud hynny. Nid yw'r enghreifftiau hyn yn gynhwysfawr a dylech gysylltu â thîm lleol y Comisiwn i gael cymorth a chyngor os credwch y gallech fod wedi gwneud gwall y gellid ei gywiro gan ddefnyddio'r pŵer hwn.
Pan fyddwch yn datrys gweithred neu anweithred yn llawn gan ddefnyddio eich pŵer i gywiro gwall gweithdrefnol, ni fyddwch yn euog o dorri dyletswydd swyddogol.3
Dylech gofio nad yw'r pŵer i gywiro gwallau gweithdrefnol yn eich galluogi, fel Swyddog Canlyniadau Lleol, i ailgyfrif y pleidleisiau ar ôl i'r canlyniad gael ei gyhoeddi.4
4. Deddf Gweinyddu Etholiadau 2006, a.46(2); Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu (Swyddogaethau Swyddogion Canlyniadau) 2012, rheoliad 6(2)↩ Back to content at footnote 4