Ar ôl datgan y canlyniad, mae'n rhaid i chi gwblhau'r dystysgrif ragnodedig yn datgan bod ymgeiswyr i gael eu dychwelyd mewn etholiad (ffurf 22) yn Gymraeg neu Saesneg. Rhaid i'r dystysgrif nodi:1
enw'r etholaeth
enw llawn pob person a etholwyd
ac yn achos unrhyw ymgeisydd ar restr plaid, enw'r blaid wleidyddol
Rhaid i chi anfon y dystysgrif berthnasol i Glerc y Senedd2
cyn gynted â phosibl, gan gofio na all tyngu'r llw teyrngarwch neu'r cadarnhad cyfatebol ddechrau nes bod eich tystysgrif wedi'i dderbyn.
Mae Clerc y Senedd wedi gofyn i chi anfon copi wedi'i lofnodi o'r dystysgrif wedi'i chwblhau fel delwedd wedi'i sganio wedi'i hatodi i e-bost yn syth ar ôl cyhoeddi'r canlyniad i:
Cyn diwrnod y pleidleisio, bydd Clerc y Senedd hefyd yn rhoi llythyr i chi i'w gyflwyno i'r ymgeiswyr llwyddiannus cyn gynted ag y cyhoeddir y canlyniadau. Mae hyn yn nodi'r camau uniongyrchol y mae angen iddynt eu cymryd i sicrhau y gallant dyngu eu llw teyrngarwch cyn gynted â phosibl.
Ar ôl yr etholiad, a chyn gynted ag y bo'n ymarferol, anfonwch y dystysgrif etholiad wreiddiol wedi'i chwblhau i:
Clerc y Senedd Senedd Cymru Tŷ Hywel Bae Caerdydd CF99 1SN
Os cewch unrhyw broblemau wrth anfon copïau o'r tystysgrifau i'r Senedd, cyfeiriwch unrhyw ymholiadau at [email protected] neu [email protected] yn y lle cyntaf. Gallwch hefyd gysylltu â Rheolwr Pontio Etholiadau'r Senedd os oes gennych unrhyw ymholiadau ar y diwrnod, neu ymlaen llaw: