Mae angen i chi benderfynu pryd i ganiatáu'r defnydd o ffonau symudol mewn gorsafoedd pleidleisio a gwneud hyn yn glir i staff gorsafoedd pleidleisio yn eich hyfforddiant staff.
Ein cyngor ni yw na ddylech ganiatáu i luniau gael eu tynnu tu mewn i orsafoedd pleidleisio. Mae’r gyfraith o ran caffael gwybodaeth mewn gorsafoedd pleidleisio a datgelu gwybodaeth o’r fath yn gymhleth ac mae risg bod rhywun sy’n tynnu llun tu mewn i orsaf bleidleisio yn torri’r gyfraith, boed yn fwriadol ai peidio.
Gallech benderfynu ar arddangos hysbysiad tu mewn i orsafoedd pleidleisio i nodi’n glir na chaniateir unrhyw fath o ffotograffiaeth (gan gynnwys lluniau a dynnir ar ffonau symudol).
Yn ogystal â sicrhau bod holl staff gorsafoedd pleidleisio yn ymwybodol o’r cyfarwyddyd hwn, dylent hefyd ddeall efallai y bydd rhai pleidleisiwr sydd wedi colli eu golwg angen defnyddio apiau ar eu ffonau symudol neu ddyfeisiau eraill i'w helpu i ddarllen dogfennau, a dylent ganiatáu iddyn nhw wneud hynny.