Dylech feddu ar wybodaeth ymarferol am y ddeddfwriaeth sy’n llywodraethu cynnal etholiad. Golyga hyn, ynghyd â chael dealltwriaeth glir o’ch swyddogaethau statudol penodol, dylech gael trosolwg o'r hyn mae’r ddeddfwriaeth yn ei chynnwys a dealltwriaeth o sut mae’n effeithio ar weinyddiad yr etholiad, fel y gallwch adolygu, cwestiynu lle bo angen, a sicrhau ansawdd y broses gyfan yn eich etholaeth.
Mae yna gyfrifoldebau rheoli sy’n gysylltiedig â’ch swydd. Er enghraifft, dylech:
gael y staff a’r adnoddau angenrheidiol i gyflawni etholiad sydd wedi’i redeg yn dda
ceisio'r gefnogaeth, y sgiliau a’r arbenigedd angenrheidiol o bob rhan o’ch awdurdod lleol eich hun ac unrhyw rai eraill yn yr etholaeth1
goruchwylio cynllunio, rheoli prosiect a rheoli risg yr etholiad
ymgorffori unrhyw wersi a ddysgwyd o etholiadau blaenorol, gan nodi a goruchwylio unrhyw gamau gweithredu sy'n angenrheidiol i liniaru unrhyw faterion sy'n codi
sicrhau bod staff yn cael eu hyfforddi'n briodol i gyflawni eu rolau
cefnogi'r staff sy'n gweinyddu'r etholiad a darparu goruchwyliaeth briodol o'u gwaith
darparu cyfeiriad i staff, monitro cynnydd a derbyn adborth rheolaidd ar weithgareddau
lle mae etholaeth yn cynnwys mwy nag un ardal awdurdod lleol:
cynnal cysylltiadau gweithio effeithiol gydag unrhyw ddirprwyon penodedig yn yr etholaeth
cynnal cysylltiadau gweithio effeithiol gydag unrhyw Swyddog Cofrestru Etholiadol yn yr etholaeth
ceisio cyngor a chymorth gan unrhyw ddirprwy penodedig a swyddogion mewn unrhyw awdurdod lleol arall yn yr etholaeth
cynnal perthynas weithio effeithiol gyda’ch Pwynt Cyswllt Unigol o fewn yr Heddlu
sicrhau fod cyfrifon yr etholiad yn cael eu cwblhau yn brydlon