Mae’r canllawiau hyn wedi’u datblygu’n seiliedig ar, a dylid eu darllen yn unol â, y gofynion a nodir yn y ddeddfwriaeth ganlynol (fel y’u diwygir):
Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983, 1985 a 2000
Deddf Llywodraeth Cymru 2006
Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000
Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001
Deddf Gweinyddu Etholiadol 2006
Gorchymyn Senedd Cymru (Taliadau Swyddogion Canlyniadau) 2021
Deddf Cymru 2014
Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024
Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024
Rheoliadau Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025
Rheoliadau Platfform Gwybodaeth am Etholiadau Cymru 2025
Rheoliadau Cynllun Cymorth Ariannol Etholiadau Cymru (Ymgeiswyr Anabl) 2025
Rheoliadau Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (Eithriadau ac Amrywio Terfynau Gwariant Ymgyrch) (Cymru) 2025
Gorchymyn Senedd Cymru (Anghymwyso) 2025
Mae'r rhestr uchod yn cynnwys y ddeddfwriaeth sy'n gwneud darpariaeth mewn meysydd y mae'r canllawiau hyn yn ymwneud â nhw a'r ddeddfwriaeth sydd mewn grym ar hyn o bryd yn unig.
Mae deddfwriaeth diogelu data yn berthnasol i brosesu pob data personol. Rydych chi'n gyfrifol yn bersonol am sicrhau eich bod chi'n cydymffurfio â gofynion deddfwriaeth diogelu data. Rydym wedi cyhoeddi canllawiau i'ch cefnogi i gyflawni eich rhwymedigaethau dan ddeddfwriaeth diogelu data gan ei fod yn ymwneud â'ch cyfrifoldebau gweinyddu etholiadol.
Mae hefyd yn ofynnol i chi ystyried:
dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus a nodir yn Adran 149 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 wrth gyflawni eich dyletswyddau
Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 a Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, sy'n angenrheidiol i gyflwyno gwasanaethau yng Nghymru yn Gymraeg a Saesneg