Canllawiau i Ymgeiswyr ac Asiantau yn etholiadau cyffredinol Senedd y DU ym Mhrydain Fawr

Beth yw'r broses bleidleisio arferol?

Gellir crynhoi'r broses bleidleisio fel a ganlyn.

Bydd staff yr orsaf bleidleisio yn:

  • gofyn i bleidleiswyr am eu henw a'u cyfeiriad cyn gwneud yn siŵr eu bod yn gymwys i bleidleisio drwy wirio yn erbyn y gofrestr etholwyr
  • gofyn i’r pleidleisiwr ddangos ID ffotograffig
  • dilysu’r ID ffotograffig
  • marcio llinell syth yn erbyn cofnod y pleidleisiwr ar y gofrestr etholwyr
  • galw enw a rhif etholiadol yr etholwr
  • ysgrifennu rhif yr etholwr ar restr (y Rhestr Rhifau Cyfatebol) wrth ymyl rhif y papur pleidleisio sydd i’w ddosbarthu
  • sicrhau bod y papur pleidleisio yn cynnwys y marc swyddogol (e.e. cod bar neu ddyfrnod)
  • plygu'r papur pleidleisio, a'i roi i'r etholwr heb ei blygu fel y gall weld yr holl opsiynau ar y papur pleidleisio

Yna bydd yr etholwr yn: 

  • mynd â'r papur pleidleisio i'r bwth pleidleisio, ac yn
  • marcio’r papur pleidleisio yn breifat, oni bai bod cydymaith neu’r Swyddog Llywyddu yn cynorthwyo
  • plygu'r papur pleidleisio wedi’i farcio ac yn dangos rhif y papur pleidleisio a'r marc adnabod unigryw ar gefn y papur pleidleisio i'r Swyddog Llywyddu
  • rhoi’r papur pleidleisio yn y blwch pleidleisio ac yna gadael yr orsaf bleidleisio

Bydd gan yr orsaf bleidleisio gyfleusterau ar gyfer unrhyw bleidleisiwr sydd am gael ID wedi’i wirio yn breifat.

Lle nad yw’r pleidleisiwr yn dod ag ID gyda nhw neu’n dod â math anghywir o ID, bydd y pleidleisiwr yn gallu dychwelyd i’r orsaf bleidleisio gyda math derbyniol o ID ffotograffig.  Unwaith y dangosir ffurf dderbyniol o ID, bydd y pleidleisiwr yn cael papur pleidleisio.

Lle bo etholiad wedi ei gyfuno â digwyddiad etholiadol arall, bydd staff gorsafoedd pleidleisio yn dosbarthu’r papurau pleidleisio ar gyfer pob digwyddiad etholiadol y mae'r pleidleisiwr yn gymwys i bleidleisio ynddynt.

Mae hyn yn golygu weithiau efallai na fydd etholwyr yn derbyn yr holl bapurau pleidleisio sy'n cael eu dosbarthu yn yr orsaf bleidleisio, oherwydd efallai na fydd ganddynt hawl i bleidleisio ym mhob digwyddiad etholiadol. 

Os cyfunwyd pleidleisiau, gellir defnyddio un blwch pleidleisio ar gyfer pob un o’r etholiadau, neu gellir defnyddio blychau pleidleisio ar wahân ar gyfer pob etholiad ar wahân. 

Hygyrchedd mewn gorsafoedd pleidleisio

Mae gan y Swyddog Canlyniadau gyfrifoldeb i sicrhau bod pleidleisio yn hygyrch. Rhaid iddynt ddarparu ystod resymol o offer i bob gorsaf bleidleisio at ddibenion galluogi pleidleiswyr anabl i bleidleisio'n annibynnol ac yn gyfrinachol, neu ei gwneud yn haws iddynt wneud hynny.

Gall y Swyddog Llywyddu helpu unrhyw un na all farcio'r papur pleidleisio eu hunain.1  Fel arall, gall pleidleisiwr ddod â rhywun gyda nhw y maent yn ei adnabod ac yn ymddiried ynddo i'w helpu i farcio eu pleidlais.2  Rhaid i'r person sy'n cynorthwyo'r pleidleisiwr fod yn 18 oed neu drosodd, a dim ond uchafswm o ddau bleidleisiwr yn yr etholiad y gall ei gynorthwyo.

Rhaid i unrhyw berson sy'n mynd i'r orsaf bleidleisio i gynorthwyo etholwr gwblhau datganiad i'r Swyddog Llywyddu cyn iddo gynorthwyo'r etholwr yn y bwth pleidleisio.
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 4 Rhagfyr 2023