Canllawiau i Ymgeiswyr ac Asiantau yn etholiadau cyffredinol Senedd y DU ym Mhrydain Fawr
Pwy all bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio?
Mae'r rhan fwyaf o bobl yn pleidleisio'n bersonol yn eu gorsaf bleidleisio. Gall unrhyw un ar gofrestr etholiadol yr orsaf bleidleisio fynd ati i bleidleisio yn yr orsaf bleidleisio mewn etholiad Senedd y DU, oni bai:
- eu bod yn bleidleisiwr post cofrestredig
- eu bod yn bleidleisiwr drwy ddirprwy cofrestredig a bod ei ddirprwy eisoes wedi pleidleisio ar ei ran neu wedi gwneud cais i bleidleisio ar ei ran
- nad ydynt yn 18 mlwydd oed neu’n hŷn ar y diwrnod pleidleisio
- maent yn aelod o Dŷ'r Arglwyddi
- maent yn ddinesydd yr UE (ac eithrio dinasyddion o Weriniaeth Iwerddon, Cyprus a Malta, sydd â hawl i bleidleisio mewn etholiad Senedd y DU)
- maent yn ddinesydd tramor cymwys yng Nghymru
- maent yn wladolyn tramor cymwys neu'n garcharor sy'n treulio dedfryd o 12 mis neu lai yn yr Alban
Bydd etholwyr yn cael cerdyn pleidleisio cyn yr etholiad yn dweud wrthynt ble a phryd y gallant bleidleisio. Nid oes angen i etholwyr fynd â’u cerdyn pleidleisio i’r orsaf bleidleisio er mwyn pleidleisio, oni bai eu bod wedi’u cofrestru’n ddienw oherwydd risg i’w diogelwch.
Gofynion ID ffotograffig
Bydd gofyn i etholwyr sy’n pleidleisio mewn gorsaf bleidleisio ddangos ID ffotograffig cyn iddynt gael papur pleidleisio. Mathau o ID ffotograffig a dderbynnir:
- pasbort a gyhoeddwyd gan y DU, unrhyw un o Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw, Tiriogaeth Dramor Brydeinig, gwladwriaeth AEE, neu un o wledydd y Gymanwlad (gan gynnwys Cerdyn Pasbort Gwyddelig)
- trwydded yrru a gyhoeddwyd gan y DU, unrhyw un o Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw, neu wladwriaeth AEE
- dogfen mewnfudo fiometrig
- cerdyn adnabod sydd â hologram y Cynllun Safonau Prawf Oedran (cerdyn PASS)
- Ffurflen 90 y Weinyddiaeth Amddiffyn (Cerdyn Adnabod Amddiffyn)
- Bathodyn Glas
- cerdyn adnabod cenedlaethol a gyhoeddwyd gan wladwriaeth AEE
- Pàs Bws Person Hŷn a gyllidir gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig
- Pàs Bws Person Anabl a gyllidir gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig
- Cerdyn Oyster 60+ a gyllidir gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig
- Pàs Freedom
- Cerdyn Hawl Cenedlaethol a gyhoeddwyd yn yr Alban
- Cerdyn Teithio Rhatach i bobl 60 oed a hŷn a gyflwynir yng Nghymru
- Cerdyn Teithio Rhatach i bobl anabl a gyflwynir yng Nghymru
- SmartPass i Bobl Hŷn a gyflwynir yng Ngogledd Iwerddon
- SmartPass i bobl sydd wedi'u cofrestru'n ddall neu SmartPass i bobl ddall a gyflwynir yng Ngogledd Iwerddon
- SmartPass Anabledd Rhyfel a gyflwynir yng Ngogledd Iwerddon
- SmartPass 60+ a gyflwynir yng Ngogledd Iwerddon
- SmartPass Hanner Pris a gyflwynir yng Ngogledd Iwerddon
- Cerdyn Adnabod Etholiadol a gyflwynir yng Ngogledd Iwerddon
Gellir defnyddio dogfennau ID ffotograffig sydd wedi dod i ben fel ID ffotograffig a dderbynnir yn yr orsaf bleidleisio neu'r man llofnodi o hyd, cyhyd â bod y llun yn dal i fod yn ddigon tebyg i'r etholwr.
Os na fydd gan etholwr un o'r mathau hyn o ID ffotograffig a dderbynnir, gallant wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr mewn nifer o ffyrdd:
- ar-lein yn https://www.gov.uk/ceisio-am-lun-id-tystysgrif-awdurdod-pleidleiswyr
- yn ysgrifenedig ar ffurflen gais bapur
- yn bersonol, os yw’r Swyddog Cofrestru Etholiadol yn cynnig y gwasanaeth hwn yn eu swyddfa
Bydd angen i etholwyr dienw sydd am bleidleisio’n bersonol wneud cais am Ddogfen Etholwr Dienw. Dim ond yn ysgrifenedig, â ffurflen gais bapur, y gallwch wneud cais am Ddogfen Etholwr Dienw. Bydd eich Swyddog Cofrestru Etholiadol lleol yn gallu darparu’r ffurflen hon i’r etholwr ar gais. Gall yr etholwr ddychwelyd y ffurflen gais i’r Swyddog Cofrestru Etholiadol drwy’r post, â llaw neu drwy e-bostio copi wedi’i sganio.
Ni ddylai ymgeiswyr ac asiantiaid drin ceisiadau wedi’u cwblhau am Dystysgrifau Awdurdod Pleidleisiwr neu Ddogfennau Etholwr Dienw. Ceir rhagor o wybodaeth yn ein cod ymddygiad i ymgyrchwyr ym Mhrydain Fawr.
Dychwelyd pecynnau pleidleisio drwy'r post
Ni ellir rhoi papur pleidleisio i bleidleiswyr post cofrestredig yn yr orsaf bleidleisio, ond gallant ddychwelyd eu pecyn pleidleisio drwy'r post wedi'i gwblhau i'w gorsaf bleidleisio ar y diwrnod pleidleisio. Fel arall, gallant ddychwelyd eu pleidlais bost i unrhyw orsaf bleidleisio yn yr etholaeth neu â llaw i'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn y swyddfa etholiadau.
Os yw'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) wedi dosbarthu pecynnau pleidleisio drwy'r post ar gyfer mwy nag un etholiad ar yr un diwrnod, bydd yn rhoi gwybodaeth i'r etholwyr yn esbonio ble y gellir dychwelyd eu pecynnau pleidleisio drwy'r post.
Rhaid i becynnau pleidleisio drwy'r post a ddychwelir i orsafoedd pleidleisio gael eu rhoi i staff gorsafoedd pleidleisio ac ni ddylent eu rhoi yn y blwch pleidleisio.
Cyflwynodd Deddf Etholiadau 2022 ddeddfwriaeth sy'n cyfyngu ar y modd y mae ymgyrchwyr yn ymdrin â dogfennau pleidleisio drwy'r post.
Mae'n drosedd i ymgyrchydd gwleidyddol drin papurau pleidleisio wedi'u cwblhau neu becynnau pleidleisio drwy'r post ar gyfer pleidleiswyr nad ydynt yn deulu agos neu rywun y maent yn gofalu amdano.
Mae hefyd yn gosod terfyn ar nifer y pleidleisiau post y gellir eu cyflwyno i orsaf bleidleisio neu eu rhoi i'r Swyddog Canlyniadau ac yn cyflwyno gofyniad i lenwi ffurflen wrth wneud hynny.
Gall person gyflwyno pleidleisiau post ar ran pum etholwr arall yn ogystal â'u rhai eu hunain.
Mae'n ofynnol i berson sy'n cyflwyno pleidlais bost lenwi ffurflen sy'n cynnwys gwybodaeth sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith. Bydd methu â chwblhau'r ffurflen yn arwain at wrthod y pleidleisiau post a gyflwynir mewn gorsaf bleidleisio neu a roddir i'r Swyddog Canlyniadau.