Canllawiau i Ymgeiswyr ac Asiantau yn etholiadau cyffredinol Senedd y DU ym Mhrydain Fawr

Beth sy'n digwydd ar ôl i enwebiadau gau?

Ar yr amod nad oes unrhyw wrthwynebiadau, bydd y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn cyhoeddi datganiad o bersonau a enwebwyd erbyn 5pm, 19 diwrnod gwaith cyn yr etholiad.1
 
Bydd y datganiad yn cynnwys:2

  • enw llawn neu enw a ddefnyddir yn gyffredin ar gyfer pob ymgeisydd a enwebwyd yn ddilys
  • enwau ymgeiswyr nad ydynt wedi'u henwebu mwyach, os o gwbl (h.y. ymgeiswyr annilys a'r rhai sydd wedi tynnu'n ôl), gan nodi'r rheswm pam nad ydynt yn sefyll mwyach
  • cyfeiriad cartref pob ymgeisydd, neu os ydynt wedi gwneud cais i beidio â gwneud eu cyfeiriad cartref yn gyhoeddus, yr etholaeth y mae eu cyfeiriad cartref ynddi (neu'r wlad os yw eu cyfeiriad cartref y tu allan i'r DU)
  • disgrifiad pob ymgeisydd (os o gwbl)

Os oes unrhyw wrthwynebiadau, bydd y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn cyhoeddi datganiad o bersonau a enwebwyd erbyn 4pm ar y diwrnod ar ôl y terfyn amser ar gyfer cyflwyno papurau enwebu, h.y. 4pm, 18 diwrnod gwaith cyn yr etholiad.3
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 4 Rhagfyr 2023